Mae mwyafrif arweinwyr ysgolion Cymru’n credu y byddai disgyblion a staff yn elwa o gael mwy o amser i ganolbwyntio ar y cwricwlwm newydd cyn ei gyflwyno.

Dywedodd bron bob un (94%) o benaethiaid ysgolion a atebodd holiadur gan undeb NAHT Cymru y byddai hynny’n fuddiol, a byddai 71% yn cefnogi oedi blwyddyn cyn ei gyflwyno.

Covid-19 oedd y rheswm pam fod angen mwy o amser i baratoi at y cwricwlwm, yn ôl nifer ohonyn nhw, gan gynnwys ar gyfer hyfforddi a pharatoi staff, a chwblhau cynlluniau.

Mae disgwyl i’r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno yn 2022.

Mewn arolwg a gafodd ei gynnal ddiwedd tymor yr haf, dywedodd 68% o arweinwyr ysgolion fod cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn brif bryder iddyn nhw wrth ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd.

Dim ond 2% o’r rhai a holwyd ddywedodd eu bod nhw’n teimlo eu bod wedi “paratoi’n fawr” at gyflwyno’r cwricwlwm newydd. Dywedodd 28% eu bod nhw ddim yn teimlo’n barod o gwbl, neu ddim llawer.

Roedd 69% yn teimlo eu bod nhw’n barod i’w gyflwyno i ryw raddau.

Yn ogystal, dywedodd 94% y bydden nhw’n cefnogi gohirio arolygiadau ysgolion am flwyddyn arall, gyda nifer yn dweud y byddai ail-gyflwyno nhw yng ngwanwyn 2022 yn amharu arnyn nhw.

Galw am gefnogaeth

“Tra bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud ambell gonsesiwn ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm newydd o ran yr amserlen, mae hyn ar gyfer ysgolion uwchradd yn unig, nid ysgolion cynradd,” meddai Laura Doel, cyfarwyddwr NAHT Cymru.

“Mae NAHT yn galw ar i bob ysgol gael cefnogaeth, yn ariannol ac o ran amserlen gall ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm newydd.

“Mae’n hanfodol fod gan ysgolion yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw, gan gynnwys hyfforddiant i staff ac athrawon llanw i ddysgu gwersi fel bod paratoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd ddim yn effeithio’n negyddol ar addysg.

“Mae yna awydd anferth am ddiwygio’r cwricwlwm; mae’n rhywbeth mae NAHT Cymru wedi’i gefnogi a gweithio arno ers blynyddoedd.

“Fodd bynnag, mae effaith Covid wedi bod yn sylweddol i rai ysgolion ac rydyn ni eisiau sicrhau bod arweinwyr ysgolion yn cael cefnogaeth wrth ei gyflwyno, a ddim yn cael eu rhoi dan bwysau ychwanegol i gyrraedd terfynau amser afrealistig, a allai gael effaith niweidiol ar staff a disgyblion.

“Rydyn ni eisiau i’r cwricwlwm newydd fod yn llwyddiannus, ond byddai ei gyflwyno’n aflwyddiannus oherwydd bod ysgolion heb gael y cyfle gorau i baratoi yn gwneud dim da i neb.”

Arolygiadau

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi ar ddiwedd tymor yr haf na fyddai arolygiadau Estyn yn digwydd ym mis Medi, a’u bod nhw wedi’u gohirio nes y gwanwyn cyn treialu trefniadau arolygu newydd.

“Rydyn ni’n croesawu’r cam gan Estyn a Llywodraeth Cymru i ohirio arolygu ysgolion nes flwyddyn nesaf,” meddai NAHT Cymru.

“Beth sy’n rhaid i ni ei sicrhau pan mae’r trefniadau newydd yn cael eu treialu, ydy eu bod nhw’n cael eu gwneud mewn ffordd sy’n cydnabod yr heriau mae ysgolion yn eu hwynebu ac ein bod ni’n gweithio gydag Estyn er mwyn gwneud yn siŵr fod gennym ni system sy’n addas yng Nghymru ac sy’n mynd law yn llaw efo’r weledigaeth ar gyfer y cwricwlwm newydd.

“Os oes newidiadau sydd angen cael eu gwneud bryd hynny, rhaid peidio â rhuthro’n ôl i arolygu ysgolion gan ddefnyddio dulliau sydd ddim yn gweithio.

“Mae ysgolion yng Nghymru ymysg y rhai sy’n cael eu rheoleiddio fwyaf yn y byd; does dim angen cadw at derfynau amser gormesol os yw’n golygu bod y broses yn methu yn y pendraw.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae’n hanfodol ein bod yn cadw’r pwyslais ar les a fu dros y flwyddyn ddiwethaf yn fan cychwyn cyflwyno Cwricwlwm i Gymru yn 2022,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni’n cydnabod y sialens arbennig fu i Ysgolion Uwchradd yn ystod y pandemig, a bydd gyda nhw’r opsiwn o gychwyn dysgu’r Cwricwlwm i Flwyddyn 7 yn 2022 neu cychwyn ei ddysgu i Flwyddyn 7 ac 8 yn 2023.

“Rydym am weithio gydag ysgolion, arweinwyr a dysgwyr i edrych ar y camau y gallwn gymryd i leihau’r pwysau ar y system, a chreu amser i athrawon i ddod i’r afael a diwygio addysg wedi’r pandemig.

“Rydym wedi gweithio gyda chonsortia rhanbarthol ac Estyn i sicrhau y bydd ein disgwyliadau o ysgolion yn realistig. Byddwn yn diweddaru ein canllawiau i ysgolion i sicrhau bod yr hyn yr ydym yn disgwyl gan ysgolion yn glir ac yn gallu cael eu cyflawni.”