Gyda phrisiau gwlân Cymru yn cyrraedd lefel is nag erioed y tymor hwn, mae prosiect newydd wedi’i lansio i ychwanegu gwerth at wlân.
Bydd y cynllun ‘Gwnaed â Gwlân’, sy’n cael ei redeg gan Menter Môn, yn dod â phartneriaid o bob cwr o Gymru ynghyd i wireddu potensial gwlân fel adnodd cynaliadwy ac adnewyddadwy.
Mae’r prosiect ar Ynys Môn wedi’i lansio yn dilyn gwaith ymchwil gan Arloesi Gwynedd Wledig yn canolbwyntio ar gyflwr presennol a photensial gwlân yng Ngwynedd.
Mae Menter Môn wedi dechrau arbrofi gyda gwlân, gan gynnwys gyda Tech Tyfu – sef cynllun peilot ffermio fertigol [system gynhyrchu bwyd mewn amgylcheddau wedi’u rheoli dan do].
Yn ogystal, maen nhw’n bwriadu defnyddio’r gwlân fel ynyswr mewn pecynnau bwyd ar gyfer y sector hunanarlwyo.
“Gwir botensial”
Dafydd Gruffydd yw Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn ac mae’n croesawu lansiad y cynllun.
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid i adeiladu ar ein hymchwil sydd yn dangos bod yna wir botensial i’r sector yma a’i hunaniaeth Gymreig,” meddai Dafydd Gruffydd.
“Gyda’i rinweddau unigryw a’r ffaith ei fod yn adnodd sydd yn fioddiraddadwy, mae gwlân yn cynnig ei hun i gael ei ddefnyddio mewn nifer o ffyrdd ac fel rhan o wahanol gynnyrch.
“Yma ym Menter Môn rydym yn barod wedi dechrau arbrofi gyda gwlân fel rhan o’n cynlluniau eraill, gan gynnwys Tech Tyfu am ei fod yn dal dŵr cystal.
“Yn y dyfodol, ymysg cynlluniau eraill rydym yn gobeithio ei ddefnyddio fel ynyswr ar gyfer ein pecynnau bwyd i’r sector hunan arlwyo.”
“Arloesol a chynhyrchiol”
Cafodd y prosiect ei gyllido drwy raglen ‘Cymunedau Gwledig’ Llywodraeth Cymru, sy’n derbyn arian gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig yn ogystal â’r llywodraeth.
“Rwy’n falch iawn o weld bod cyllid gan y Cynllun Datblygu Gwledig yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r prosiect pwysig yma gan Menter Môn,” meddai Lesley Griffiths AoS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru.
“Mae gwlân yn adnodd naturiol, yr ydym yn ffodus iawn ohono yng Nghymru, ac mae’n hynod bwysig ein bod ni’n edrych ar ffyrdd o fanteisio ar ei botensial er budd ffermwyr a’r gymuned ehangach.”
“Mae’n bosib defnyddio gwlân naturiol mewn nifer o ffyrdd, ac rwy’n gobeithio mai canlyniad y prosiect yma fydd y defnydd o wlân mewn ffyrdd arloesol a chynhyrchiol.”
“Adnabod cyfleoedd”
“Mae British Wool yn edrych ymlaen at weithio gyda Menter Môn a’r sector gwlân yng Nghymru ar y cynllun Gwnaed a Gwlân,” ychwanegodd Gareth Jones, Pennaeth Marchnata Cynhyrchwyr British Wool.
“Wrth fod yn bartner ar y cynllun, mae hyn yn ein galluogi ni i ddefnyddio ein gwybodaeth a’n arbenigedd o fewn y sector i wneud cyfraniad cadarnhaol wrth adnabod cyfleoedd i gefnogi’r cynhyrchwyr a’r sector gwlân yng Nghymru.”