Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi cadarnhau bod llygredd sylweddol o ficro-plastigion wedi ei ddarganfod ar gopa’r Wyddfa.
Fe wnaeth cwmni CGG o Ffrainc gynnal arolwg ar y mynydd gan ddefnyddio samplau o bridd oddi ar lwybr Llanberis ym mis Ebrill eleni.
Cafodd symiau sylweddol o ficro-plastigion – tua 5% mewn rhai mannau – eu canfod yn y pridd ar gopa’r mynydd, gan fod pobl yn tueddu i ymgynnull mewn niferoedd mawr yno.
Yn ddiweddar, mae’r Wyddfa wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y dringwyr a cherddwyr, ac mae hynny wedi golygu bod mwy yn ymgynnull wrth y copa, gan arwain at giwiau o hyd at dri chwarter awr ar adegau.
Mae gronynnau micro-plastig yn cael eu tynnu i’r pridd wrth i ddeunydd plastig mwy dorri i lawr neu wrth i ffibrau grafu oddi ar ddillad.
Gall y gronynnau hynny wedyn effeithio ar yr amgylchedd lleol drwy fynd i mewn i’r gadwyn fwyd neu gylchred dŵr.
Angen gofal gan ymwelwyr
Dywedodd John Harold, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri a Chadeirydd Partneriaeth Yr Wyddfa, bod ymdrech yn cael ei wneud i godi’r holl ysbwriel, ond bod dim modd clirio popeth.
“Mae’r canlyniadau hyn yn ein hatgoffa’n llwyr o ba mor barhaus yw plastig pan mae’n mynd i’r amgylchedd,” meddai.
“Mae llawer iawn o sbwriel yn cael ei glirio gan staff a gwirfoddolwyr, ond nid yw popeth yn cael ei godi o bell ffordd.
“Mae’r gwaith hwn yn dangos beth sy’n digwydd pan fydd plastig yn cael ei ollwng yn rhydd ym mhriddiau a dŵr croyw ein hardaloedd gwarchodedig gwerthfawr; mae’n torri’n ronynnau dirifedi ac rydyn ni’n colli rheolaeth arno.
“Unwaith eto mae hyn wir yn tynnu sylw at yr angen i ni i gyd fod yn arbennig o ofalus wrth ymweld ag ardaloedd gwarchodedig.”