Fe wnaeth o leiaf 828 o ffoaduriaid groesi’r Sianel ar gychod bach mewn un diwrnod dros y penwythnos – record newydd ar gyfer yr argyfwng presennol.

Er gwaethaf addewidion gan y Swyddfa Gartref i wneud y daith yn “anymarferol”, fe wnaeth 30 o gychod lwyddo i gyrraedd y Deyrnas Unedig ddydd Sadwrn (21 Awst), meddai’r adran.

Mae nifer y bobol gyrhaeddodd yn torri’r record flaenorol a gafodd ei gosod lai na phythefnos yn ôl pan groesodd 592 mewn diwrnod.

Erbyn hyn, mae dros 12,400 o bobol wedi croesi’r Sianel i’r Deyrnas Unedig ers dechrau 2021, yn ôl data sydd wedi’i gasglu gan wasanaeth newyddion PA.

Mae nifer o bobol wedi marw wrth groesi’r môr, gyda llywodraethau ar ddwy ochr y Sianel yn addo gweithredu dro ar ôl tro.

Yn gynharach yn ystod y mis, fe wnaeth dyn 27 oed o Eritrea farw ar ôl iddo neidio oddi ar gwch gyda phedwar o bobol eraill gan ei bod hi’n dechrau suddo.

“Diangen”

“Mae’r croesiadau peryglus hyn o wledydd sâff yn yr Undeb Ewropeaidd yn hollol ddiangen ac rydyn ni’n benderfynol o fynd i’r afael â’r gangiau troseddol sy’n gyfrifol amdanyn nhw,” meddai Dan O’Mahoney, o’r Swyddfa Gartref.

“Rydyn ni’n gweithio gydag adrannau’r Llywodraeth, yn ogystal â gyda phartneriaid yn Ffrainc ac yn rhyngwladol i fynd i’r afael â’r mater.

“Rydyn ni wedi dyblu nifer yr heddlu ar draethau Ffrainc, atal mwy na 10,000 ymgais, arestio 300 o bobol ac erlyn 65 o bobol.”