Mae cwmni McDonald’s yn dweud nad ydyn nhw’n gallu gwneud ysgytlaethau yn eu holl fwytai ar draws y Deyrnas Unedig yn sgil problemau gyda’r gadwyn gyflenwi.

Does dim poteli diodydd yn eu 1,250 siop dros Gymru, Lloegr a’r Alban chwaith.

Yn ôl yr adroddiadau, dywedodd llefarydd ar ran y cwmni bwyd cyflym fod y diffyg diodydd yn deillio o broblemau gyda’r gadwyn gyflenwi, ond eu bod nhw’n “gweithio’n galed i roi’r eitemau’n ôl ar y fwydlen”.

McDonald’s yw’r cwmni diweddaraf i gael eu heffeithio gan broblemau gyda phrinder nwyddau, ar ôl i Nando’s orfod cau tua 50 o’u bwytai’r wythnos ddiwethaf yn sgil prinder cyw iâr.

Dywedodd Nando’s mai diffyg staff gyda’r cyflenwyr a phrinder gyrwyr loriau oedd ar fai.

Fe wnaeth bwytai KFC rybuddio’n ddiweddar fod problemau gyda’r gadwyn gyflenwi’n golygu eu bod nhw’n methu stocio rhai eitemau.

Mae cwmnïau ar draws nifer o sectorau wedi bod yn brwydro gyda’r argyfwng yn y gadwyn gyflenwi yn sgil prinder gyrwyr loriau yn dilyn newid i reolau mewnfudo o’r Undeb Ewropeaidd wedi Brexit, cyfyngiadau Covid-19 a rheolau hunanynysu.

Mae’r mater wedi bod yn effeithio archfarchnadoedd ers ychydig wythnosau, tra bod cynhyrchwyr yn dweud fod cynnydd sydyn mewn prisiau deunyddiau crai.

Mae grwpiau busnes sy’n cynrychioli’r sectorau manwerthu a chludo wedi bod yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i adolygu eu cynlluniau i beidio â rhoi visas dros dro i yrwyr o’r Undeb Ewropeaidd.

Prinder nwyddau yn y siopau “oherwydd Brexit!”

Sian Williams

“Mae’r gadwyn gyflenwi ar draws Ewrop wedi torri a Brexit sy’n gyfrifol am hynny”

Y sefyllfa i gerbydau cludo nwyddau “ddim yn mynd i wella” yn y dyfodol

Gwern ab Arwel

Mae’r diwydiant cludo yn brin o 90,000 gyrwyr lori yn y Deyrnas Unedig