Mae elusen blant yr NSPCC wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gryfhau eu cynlluniau ar gyfer gwarchod plant ar-lein.

Daw hyn wedi i nifer y troseddau rhyw yn erbyn plant ar-lein godi’n sylweddol dros y tair blynedd ddiwethaf.

Dangosodd ffigurau, a ddaeth i law’r NSPCC gan 42 o heddluoedd ledled Cymru a Lloegr, fod nifer y troseddau a gofnodwyd yn ymwneud â chyfathrebu rhywiol â phlentyn wedi cynyddu 69% ers 2018.

Dywedodd yr elusen bod troseddwyr yn manteisio ar ddiffygion dylunio ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gan alluogi defnyddwyr iau i gael eu targedu, a bod angen i Fil Diogelwch Ar-lein drafft y Llywodraeth fynd ymhellach.

Yn ôl ffigurau gan yr NSPCC o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth i heddluoedd, cofnodwyd 5,441 o droseddau rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021, cynnydd o 69% o’r 3,217 a gofnodwyd yn yr un cyfnod yn 2017-18.

Defnyddiwyd apiau sy’n eiddo i Facebook, gan gynnwys Instagram, WhatsApp a Messenger, mewn bron i hanner y troseddau, gydag Instagram yn cael ei ddefnyddio amlaf.

Cafodd Snapchat hefyd ei enwi mewn mwy na chwarter yr achosion.

Rhybuddiodd yr elusen hefyd ei bod yn credu nad yw’r ffigurau diweddaraf yn rhoi dealltwriaeth lawn o faint y broblem yn ystod y pandemig, gan gyfeirio at gyfaddefiad Facebook ei fod wedi colli rhywfaint o gynnwys cam-drin plant yn ail hanner 2020 oherwydd materion technegol.

‘Peryglu plant’

“Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae methiannau cwmnïau technoleg yn golygu bod mwy o blant yn cael eu peryglu yn sgil y lefelau uchaf erioed o gam-drin rhywiol,” meddai Andy Burrows, pennaeth polisi diogelwch plant ar-lein yn yr NSPCC.

“Er mwyn ymateb i faint a chymhlethdod y bygythiad, rhaid i’r Llywodraeth roi amddiffyn plant wrth wraidd ei deddfwriaeth a sicrhau bod y Bil Diogelwch Ar-lein yn gwneud popeth sydd ei angen i atal cam-drin ar-lein.”

Dywedodd yr NSPCC ei fod wedi cael ei galonogi gan y don ddiweddar o nodweddion diogelwch newydd a gyflwynwyd ar nifer o lwyfannau, gan gynnwys TikTok ac Instagram, ond rhybuddiodd fod y cwmnïau’n dal i fod ar ei hôl hi oherwydd blynyddoedd o systemau sydd wedi’u cynllunio’n wael.

Bydd cyd-bwyllgor o Aelodau Seneddol  yn craffu ar y Mesur Diogelwch Ar-lein drafft o fis Medi ymlaen, a dywedodd yr elusen fod hwn yn gyfle hollbwysig i sicrhau bod y ddeddfwriaeth arfaethedig yn cynnig atebion ac i ddatrys y ffyrdd y mae camdrinwyr yn manteisio ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd.