Mae galw domestig uchel, cyflenwad tynn, effaith Covid a materion logistaidd yn dilyn Brexit wedi cyfuno i greu darlun eithaf llwm ar gyfer allforion cig coch.
Dangosa data a gafodd ei ddadansoddi gan Hybu Cig Cymru bod allforion cig eidion y Deyrnas Unedig 31% yn is yn hanner cyntaf 2021 o gymharu â’r un cyfnod yn 2020.
Roedd allforion cig oen bron 25% yn is hefyd, yn ôl ystadegau gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Ffactorau
Un o brif resymau’r newid hwn yw’r galw domestig cryf sy’n cymryd llawer o’r cynnyrch a allai fod ar gael i’w allforio.
Mae’r galw cyfyngedig gan y sector bwyd mewn llawer o wledydd tramor yn sgil Covid wedi lleihau’r galw am allforion hefyd, meddai Hybu Cig Cymru.
Ychwanega’r corff fod rhai materion logistaidd wedi effeithio ar fasnach yn dilyn Brexit hefyd.
Mae’r ystadegau hefyd yn dangos bod nifer y gwartheg dethol a gafodd eu lladd wedi gostwng 3% ers blwyddyn, a bod nifer yr ŵyn a gafodd eu lladd wedi gostwng 8% yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn.
Mae’r ffactorau hyn wedi dod ynghyd i effeithio ar werth allforion cig oen ac eidion o Gymru; fel arfer cyfanswm yr allforion yw £200 miliwn y flwyddyn, ond mae disgwyl y bydden nhw ychydig is eleni.
Cafodd llai o gig ei fewnforio i’r Deyrnas Unedig rhwng Ionawr a Mehefin hefyd, gyda mewnforion cig eidion wedi gostwng bron i 13% a chig defaid wedi gostwng 16%.
“Newidiadau mawr”
Mae Glesni Phillips, Dadansoddwr Data Hybu Cig Cymru wedi llunio Bwletin y Farchnad newydd sy’n dadansoddi’r data.
“Mae’r newidiadau mawr mewn cymdeithas a gwleidyddiaeth yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi cael effaith sylweddol ar fasnach hyd yma eleni, fel y dengys data diweddaraf Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
“Mae cau’r sector gwasanaeth bwyd yma yn y DU a thramor wedi newid arferion bwyta defnyddwyr, gan arwain at alw gwannach am nwyddau wedi’u mewnforio,” meddai Glesni Phillips.
“Yn ogystal â hyn, mae’r galw cryf am gig coch gan ddefnyddwyr Prydain mewn manwerthu wedi effeithio ar y cyfaint sydd ar gael i’w allforio.
“Fodd bynnag, nid yw hyn wedi newid dibyniaeth y Deyrnas Unedig ar farchnadoedd allweddol fel Iwerddon, Ffrainc a’r Almaen.
“Er gwaethaf mewnforio ac allforio llawer llai o gig coch, maen nhw’n parhau i fod yn farchnadoedd pwysig i’n diwydiant cig coch. Roedd Ffrainc yn cyfrif am dros 48% o gyfanswm gwerth allforio cig defaid yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn hon.
“Gan fod y cyflenwad o gig oen ar ei uchaf fel arfer yn ystod hanner olaf y flwyddyn, disgwylir y bydd masnach cig defaid yn gwella – fodd bynnag, gall prisiau gât y fferm cryf parhaus effeithio ar gyfeintiau allforio, yn enwedig i farchnadoedd sy’n sensitif i brisiau.”