Mae prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn ddiweddar wedi achosi problemau dybryd i’r diwydiant cludo ac i gadwyni cyflenwi, ac mae rhybudd nad yw’r sefyllfa’n debygol o wella’n fuan.

Mae grwpiau lobïo fel Logistics UK, sy’n cynrychioli cwmnïau cludo, wedi galw ar Lywodraeth Prydain i weithredu ar frys i liniaru’r pwysau ar y sector, sydd wedi gweld prinder gyrwyr yn ddiweddar.

Yn benodol, maen nhw eisiau i’r Llywodraeth edrych eto ar roi fisas i yrwyr o’r Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â chynnig gwell hyfforddiant.

Dywed Logistics UK a Chonsortiwm Manwerthu Prydain fod prinder o 90,000 o yrwyr cerbydau nwyddau trwm ar draws y Deyrnas Unedig, sy’n effeithio ar gadwyni cyflenwi.

‘Crafu’

Mae cwmni cludo DJ Jenkins & Son yn Felinfach yn dweud eu bod nhw’n llwyddo i gadw eu pen uwchben y dŵr ar y funud.

“Rydyn ni’n crafu ar hyn o bryd,” meddai’r rheolwr Graham Jenkins wrth golwg360.

“Does gennym ni neb yn sbâr, felly pe bai rhywun yn sâl, byddai hi siŵr o fod yn broblem.

“Dydy hi ddim cynddrwg yng nghefn gwlad inni, ond er hynny, does dim gormodedd o yrwyr ar gael i neb mwyach.

“Byddai adeg lle’r oedd gennym ni restr o yrwyr oedd yn ‘mofyn swydd, ond dydy hynny ddim yn wir bellach.

“Petaen ni’n chwilio am rywun nawr, fydden ni ddim yn gwybod lle i droi.”

‘Ddim yn mynd i wella’

Mae Graham Jenkins yn nodi bod sawl rheswm, fel y pandemig a Brexit, yn “cyfuno â’i gilydd” i effeithio ar y diwydiant cludo.

“Mae hi’n ofnadwy o brysur ar y funud, mae fel petai fod pawb wedi dihuno ar yr un pryd,” meddai.

“Mae galw uchel ar hyn o bryd, ac mae hynny’n cael ei waethygu gan fod llawer wedi gadael y maes – o ran cwmnïau ac o ran gyrwyr.

“Mae Brexit hefyd wedi effeithio oherwydd bod llawer o bobol Ewropeaidd wedi mynd yn ôl adref i weithio.

“Dw i’n credu bod popeth yn cyfuno â’i gilydd i achosi hyn.”

Dydy e ddim yn rhagweld y bydd y sefyllfa’n gwella yn y dyfodol chwaith, oherwydd fod cymaint wedi newid yn y diwydiant.

“Dydy hi ddim yn mynd i wella, mae hynny’n bendant,” meddai.

“Mae gyrwyr yn llawer hŷn nag oedden nhw’n arfer bod, achos fod dim pobol ifanc yn dangos diddordeb.

“Dydy’r bois ifanc hyn ddim eisiau gorfod bod mewn traffig, ac mae’r straen sydd ar bobol yn y gwaith wedi mynd yn uffernol.

“Doedd hi ddim fel hyn o gwbl ddeg i bymtheg mlynedd yn ôl.”