Mae’r heddlu yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad difrifol yn ardal Penblewyn ger Arberth ddydd Gwener (Awst 20).

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Vauxhall Corsa du a lori gymysgu sment DAF am tua 5yh.

Cafodd dynes a oedd yn gyrru’r Vauxhall Corsa anafiadau difrifol, a chafodd ei chludo gan yr Ambiwlans Awyr i’r ysbyty yng Nghaerdydd.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a oedd yn teithio ar hyd yr A478 rhwng cylchfan Penblewyn ac Arberth ar adeg y gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu’r ymchwiliad gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101.