Daeth cadarnhad fod Cyngor Gwynedd wedi cadw safon aur y Fframwaith Ansawdd Iechyd Genedlaethol.

Dyma strwythur genedlaethol Llywodraeth Cymru er mwyn hyrwyddo a gwella iechyd a lles yn y gweithle.

Mae’r fframwaith yn cydnabod arferion da o ran iechyd a lles staff.

Cafodd y Safon Aur ei rhoi i Gyngor Gwynedd am y tro cyntaf yn 2011 ac mae’r sefydliad wedi cyrraedd y safon yn gyson ers hynny.

Yn yr adolygiad eleni, roedd cydnabyddiaeth arbennig gan yr aseswyr i’r ffordd mae’r Cyngor wedi addasu a chadw’r ddarpariaeth iechyd a lles i staff i fynd drwy gydol y pandemig gan sicrhau bod cymorth yn dal i fod ar gael er fod yr amgylchiadau gwaith yn wahanol.

“Dw i’n cydnabod a gwerthfawrogi fod sefydliad fel awdurdod lleol wedi bod o dan gryn straen dros y deuddeg mis diwethaf a fod hyn wedi cael oblygiadau ar lles eich gweithwyr,” meddai’r asesydd Bryn Jones.

“Hyd yn oed yn y cyfnod anodd yma … [mae] Cyngor Gwynedd wedi parhau i gynnal ei darpariaeth lles a iechyd, yn ogystal â datblygu a chyflwyno mentrau newydd.

“Hoffwn eich llongyfarch ar gwblhau eich Gwirio Statws Lefel Aur yn llwyddiannus a rwy’n ffyddiog drwy barhau i adolygu ac adnewyddu eich pecyn iechyd a lles y byddwch yn barod ddelio a sialensiau’r dyfodol.”

“Lle da i weithio”

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Adran Cefnogaeth Gorfforaethol, mai “ein staff yw ein hadnodd bwysicaf felly yn naturiol mae iechyd a lles pawb sy’n gweithio yma yn bwysig i ni fel Cyngor”.

“Er gwaetha’r amser anodd rydym i gyd wedi ei wynebu dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf, mae staff y Cyngor wedi cario mlaen ac wedi mynd y filltir ychwanegol,” meddai.

“Heb waith caled ac ymdrechion ein swyddogion, byddai pobol a chymunedau Gwynedd ar eu colled yn fawr.

“Dwi’n teimlo’n gryf fod angen gwasanaethau mewn lle i ddiogelu iechyd a lles ein staff, felly dwi’n falch o air yr aseswyr fod Cyngor Gwynedd ymysg y goreuon yn y sector gyhoeddus yng Nghymru.

“Dyma gadarnhad pellach fod Cyngor Gwynedd yn le da i weithio.”