Mae cyfleusterau newydd wedi eu hagor ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer cynnal ymchwil o’r radd flaenaf i iechyd anifeiliaid.

Bydd labordai yn cael eu defnyddio er mwyn ymchwilio’n benodol i afiechydon sy’n gallu cael eu trosglwyddo rhwng pobol ac anifeiliaid, gan gynnwys y diciâu mewn gwartheg.

Mae’r datblygiad hwn yn rhan o raglen cyllido Sêr Cymru II, sy’n ceisio gwella safon ymchwil gwyddonol yng Nghymru, a bydd £3.6m yn cael ei ddarparu gan y cynllun hwnnw, sy’n cynnwys arian o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Yn ogystal, bydd Prifysgol Aberystwyth yn croesawu’r myfyrwyr cyntaf i’r Ysgol Gwyddor Filfeddygol – sef yr ysgol filfeddygol gyntaf yng Nghymru – ym mis Medi.

‘Cryfhau gallu ymchwilio Cymru’

Fe ymwelodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, â’r cyfleusterau newydd a gafodd gyllid o £1.9m gan Lywodraeth Cymru hefyd.

“Mae wedi bod yn braf iawn cael ymweld â Phrifysgol Aberystwyth gyda Christianne Glossop, ein Prif Swyddog Milfeddygol, a gweld a chlywed am y datblygiadau cyffrous a phwysig sy’n digwydd,” meddai.

“Bydd y labordai newydd yn allweddol wrth gryfhau gallu ymchwilio Cymru ac mae’r Ganolfan Ragoriaeth yn hanfodol ar gyfer yr ymchwil genedlaethol a rhyngwladol i TB mewn gwartheg a’r nod o ddileu’r clefyd.

“Mae hi wedi bod yn bleser cael cwrdd â’r Athro Hewinson, arweinydd y ganolfan a gŵr uchel iawn ei barch yma a thramor.

“Bydd ei arweiniad a’i arbenigedd yn hanfodol nawr ac yn y dyfodol.”

‘Hanes hir a balch o ymchwil arloesol’

Dywedodd yr Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil Prifysgol Aberystwyth, fod y datblygiadau newydd yn parhau ag ymrwymiad y Brifysgol i ddatblygu gwledig.

“Mae gan y Brifysgol hanes hir a balch o ymchwil arloesol i fynd i’r afael ag anghenion cymunedau a busnesau gwledig yng Nghymru a thros y byd,” meddai.

“Bydd datblygu cyfleusterau newydd, gan gynnwys Ysgol Filfeddygol gyntaf Cymru, labordai o’r radd flaenaf, ac AberArloesi yng Ngogerddan, yn golygu newid mawr yn ein gweithgarwch, gan atgyfnerthu lle Aberystwyth fel un o’r safleoedd ymchwil mwyaf blaenllaw yn y byd.”