Mae’r sylwebydd a gweinyddwr criced a chyn-gapten tîm Lloegr, Ian Botham, wedi’i benodi’n gennad masnach i’r Deyrnas Unedig yn Awstralia.

Mae’n enwog yn bennaf am arwain tîm Lloegr i fuddugoliaeth yn erbyn Awstralia yng Nghyfres y Lludw yn 1981, ond mae e bellach wedi’i benodi i arwain ar fasnachu gyda’r wlad.

Mewn neges ar Twitter, dywed Liz Truss, Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol San Steffan, y bydd e’n helpu busnesau i fanteisio ar gyfleoedd dan y cytundeb masnach rydd ag Awstralia.

Daeth Ian Botham yn Arglwydd y llynedd, ac mae’n gefnogwr brwd o Brexit ac yn gadeirydd Clwb Criced Durham.

Llysgenhadon eraill

Mae naw cennad masnach arall wedi’u penodi hefyd, a dywed Liz Truss y bydd y deg, sy’n gwneud y gwaith yn ddi-dâl, yn helpu i ymestyn cyfleoedd busnes gyda rhai o’r marchnadoedd sy’n tyfu gyflymaf yn y byd.

“Drwy gynyddu allforion, hybu buddsoddiad mewnol a chreu swyddi uchel eu gwerth â thâl uchel, bydd ein cenhadon masnach yn ein helpu ni i adeiladu’n ôl yn well wedi Covid-19, gan sicrhau bod pob rhan o’r Deyrnas Unedig yn elwa o’n strategaeth fasnach,” meddai.

Mae Syr Jeffrey Donaldson, arweinydd y DUP, wedi’i benodi’n gennad ar gyfer Camerŵn, ar ben ei waith fel cennad masnach ar gyfer yr Aifft.

Mae’r cyn-Aelod Seneddol Llafur Kate Hoey, sy’n eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi ac yn un o gefnogwyr amlycaf Brexit yn ystod y refferendwm, wedi’i phenodi’n gennad masnach ar gyfer Ghana.

Ynghyd â chwe Aelod Seneddol sydd wedi’u penodi yn llysgenhadon masnach, mae’r cyn-Aelod Seneddol Llafur John Woodcock, sydd bellach yn Arglwydd, yn gennad ar gyfer Tanzania.

Cytundeb Awstralia yn gosod “cynsail gwael” am gytundebau masnach y dyfodol, medd undeb amaeth

Jacob Morris

Daw’r sylwadau yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan