Mae Plaid Cymru wedi ychwanegu eu llais at y rhai sy’n galw am osod diffibriliwr ym mhob clwb rygbi yng Nghymru.

Daw hyn yn dilyn marwolaeth Alex Evans, blaenasgellwr tîm rygbi Cwmllynfell, dros y penwythnos.

Fe fu farw ar ôl cael ei daro’n wael yn ystod gêm yn erbyn Creunant, ond doedd dim modd achub ei fywyd yn dilyn triniaeth.

“Mae’r drasiedi ddiweddaraf hon wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y ffaith fod diffibrilwyr ar gael yn hawdd,” meddai Heledd Fychan, llefarydd chwaraeon Plaid Cymru.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod cyn hyn fod gan Gymru un o’r cyfraddau goroesi isaf yn Ewrop ar gyfer trawiadau ar y galon y tu allan i ysbytai, ac maen nhw wedi ymrwymo eisoes i ‘wella mynediad y cyhoedd’ at ddiffibrilwyr.

“Mae’r achos hwn yn profi bod yna bobol yn barod ac sy’n gallu defnyddio diffibrilwyr pan fo’u hangen.

“Mae angen nawr i Lywodraeth Cymru sicrhau argaeledd diffibrilwyr mewn mwy o lefydd cyhoeddus yng Nghymru, fel bod pawb yn cael y cyfle gorau o oroesi o drawiadau ar y galon.”

Alex Evans

Teyrngedau i chwaraewr rygbi fu farw ar y cae

Roedd Alex Evans yn chwarae i Gwmllynfell yn erbyn Creunant pan gafodd ei daro’n wael