Mae teyrngedau wedi’u rhoi i chwaraewr rygbi fu farw ar y cae yn ystod gêm ddoe (dydd Sadwrn, Awst 21).
Roedd Alex Evans yn chwarae i Gwmllynfell yn erbyn Creunant pan gafodd ei daro’n wael.
Cafodd y blaenasgellwr driniaeth ar y cae, ond fe fu farw.
“Does dim geiriau, a does dim geiriau i ddisgrifio heddiw,” meddai Clwb Rygbi Cwmllynfell ar Twitter.
“Rydym wedi colli brawd ar y cae ac mae’n brifo cymaint. Cwsg mewn hedd Alex.
“Mae’r clwb a’r gymuned gyfan mewn sioc a thristwch.”
Teyrnged y capten
Mae Chris Balfe, capten Clwb Rygbi Cwmllynfell, wedi talu teyrnged i’w gyd-chwaraewr hefyd.
“Mae cael chwarae fel rhan o dîm yn fwy na chwaraeon, bod yn rhan o deulu yw e,” meddai.
“Pan gewch chi’r anrhydedd o wisgo crys eich clwb gyda’ch mêts, mae’n rhywbeth na all arian ei brynu.
“Aethon ni allan heddiw fel tîm o fêts, ac fe ddaethon ni o’r cae wedi colli brawd.”
Dywedodd ei fod yn “berson ffyddlon dros ben oedd yn rhoi popeth ar y cae ac mewn bywyd”.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cydymdeimlo â theulu, ffrindiau, cyd-chwaraewyr a chlwb Alex Evans.
Mae tudalen Go Fund Me wedi cael ei sefydlu er cof amdano.