Dydd Gwener, 20 Awst

Cei Connah 1-0 Aberystwyth

Curodd Cei Connah gêm agos yn erbyn Aberystwyth nos Wener (Awst 20).

Sicrhaodd peniad gan Craig Curran fod tîm Andy Morrison ar y blaen ar yr egwyl.

Daeth Jamie Insall yn agos at ddyblu mantais y tîm cartref wrth iddo daro’r postyn.

Ond roedd un gôl yn ddigon i Cei Connah sicrhau’r pwyntiau ac ail fuddugoliaeth mewn dwy gêm.

Hwlffordd 0-0 Met Caerdydd

Gêm gyfartal oedd hi rhwng Hwlffordd a Met Caerdydd, gyda’r naill dîm yn llwyddo i sgorio.

Mae’r canlyniad yn golygu bod y ddau dîm yn dal i ddisgwyl am eu buddugoliaethau cyntaf y tymor hwn.

Dyw Hwlffordd heb sgorio’r tymor hwn hyd yma, ond mae’n debyg y bydd Met Caerdydd yn hapus i gadw llechen lan ar ôl cael cweir 5-1 gan y Fflint ar ddiwrnod cyntaf y tymor.

Dydd Sadwrn, 21 Awst

Y Fflint 4-0 Derwyddon Cefn

Fe wnaeth dechrau campus y Fflint i’r tymor barhau dydd Sadwrn (21 Awst) wrth iddyn nhw drechu Derwyddon Cefn – oedd lawr i 10 dyn am ran helaeth o’r gêm – 4-0.

Sgoriodd Michael Wilde hat-trick, gan gynnwys cic o’r smotyn hwyr er mwyn parhau gyda’i rediad da ers ymuno o Cei Connah dros yr haf.

Roedd hi wastad yn mynd i fod yn anodd i Derwyddon Cefn ar ôl i Phil Mooney gael ei anfon oddi ar y cae wedi 20 munud.

Ac i roi halen yn y briw, sgoriodd Jack Kenny gôl gyntaf y Fflint funud yn ddiweddarach.

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod y Fflint ar frig y tabl wedi dwy gêm.

Penybont 1-1 Y Drenewydd

Bu’n rhaid i Benybont setlo am bwynt eto’r wythnos hon, wrth i’r Drenewydd frwydro’n ôl i sicrhau pwynt.

Roedd y tîm cartref wedi cael gêm gyfartal gyda’r Bala ar benwythnos agoriadol y tymor.

Rhoddodd gôl gan Samuel Snaith y tîm cartref ar y blaen, cyn i Aaron Williams unioni’r sgôr yn fuan cyn yr egwyl.

Mae’n ganlyniad na fydd yr un tîm yn rhy fodlon gydag, ond mae’n debyg na all yr un rheolwr gwyno am y canlyniad.

Y Seintiau Newydd 5-3 Caernarfon

Gêm fwyaf cyffrous y penwythnos heb os nac oni bai oedd gornest Caernarfon gyda’r Seintiau Newydd.

Roedd hi’n gêm agored llawn goliau, ond y Seintiau Newydd sicrhaodd y pwyntiau, gan guro 5-3.

Rhoddodd Dan Davies y tîm cartref ar y blaen ar ôl pum munud, ond ymatebodd Caernarfon gyda gôl gan Danny Gosset.

Mae’r chwaraewr canol cae nawr wedi sgorio dwy gôl mewn dwy gêm.

Roedd y Seintiau i weld wedi cymryd rheolaeth lwyr o’r gêm, gyda goliau gan Declan McManus a Louis Bradford.

Fodd bynnag, sgoriodd Darren Thomas, neu’r ‘Cofi Messi’, i leihau mantais y Seintiau i un gôl.

Fe wnaeth gôl gan Blaine Hudson adfer mantais o ddwy gôl y Seintiau.

Ond doedd Caernarfon ddim am roi’r ffidil yn y to, ac fe sgoriodd Gwion Dafydd i wneud yn siŵr ei bod hi’n ddiwedd cyffrous i’r gêm.

Y Seintiau gafodd y gair olaf, gyda gôl gan Ash Baker yn sicrhau bod y pwyntiau yn aros yng Nghroeswallt.

Y Barri 0-0 Y Bala

Ni lwyddodd y Bala, oedd yn chwarae heb eu capten a phrif sgoriwr Chris Venables, i drechu’r Barri oddi cartref.

Ac roedd y tîm cartref i weld yn ddigon bodlon i gymryd pwynt ar ôl colli yn erbyn Aberystwyth ar benwythnos cyntaf y tymor.

Gêm ddigon di fflach oedd hi, gyda’r naill dîm yn creu llawer o gyfleoedd sgorio.