Y Cymro Mark Williams yw pencampwr Snwcer Agored Prydain ar ôl iddo fe guro Gary Wilson o 6-4 yng Nghaerlŷr neithiwr (nos Sul, Awst 22).

Daw’r fuddugoliaeth 24 o flynyddoedd ar ôl ei gyntaf.

Ond mae’n cyfaddef ei fod e wedi bod yn ffodus ar ôl dechrau digon gwael i’r gystadleuaeth.

Sgoriodd y Cymro 46 oed o Went ddau rediad o dros gant yn y rownd derfynol gan ennill y ddwy ffrâm olaf mewn gêm agos.

Ar ôl curo Jimmy Robertson yn y rownd gyn-derfynol, roedd Williams ar y blaen o 2-1 yn gynnar yn y rownd derfynol, gyda rhediad o 11 yn y drydedd ffrâm.

Ymatebodd Wilson yn gadarn gyda rhediad o 101 gan fynd ar y blaen am y tro cyntaf ar ddiwedd y bumed ffrâm, a hynny o 3-2.

Ond sgoriodd Williams 115 yn y nawfed ffrâm i fynd ar y blaen o 5-4, ac fe aeth yn ei flaen i gipio’r tlws sydd heb fod ar gael ar y gylchdaith ers 2004.

Dim ond dau sgôr o 147 a gafwyd yn ystod y gystadleuaeth, y naill gan yr Albanwr John Higgins a’r llall gan y Sais Ali Carter.

“Dylwn i fod wedi mynd allan o leiaf ddwy neu dair gwaith,” meddai Mark Williams wrth ITV 4 wrth asesu ei gystadleuaeth ar ddiwedd y noson.

“A heno, ro’n i’n teimlo fy mod i wedi chwarae’n ddigon solet yr holl ffordd drwodd, a’r gorau dw i wedi chwarae drwy gydol yr wythnos.”