Mae Mick McCarthy yn dweud nad oes ots ganddo fe sut mae tîm pêl-droed Caerdydd yn sgorio goliau, gan eu bod nhw “i gyd yn cyfri”.

Daw ei sylwadau ar ôl i’r Adar Gleision guro Millwall o 3-1 ddoe (dydd Sadwrn, Awst 21).

Daeth y goliau i gyd oddi ar y pen, fel pob gôl arall hyd yn hyn y tymor hwn, gydag Aden Flint yn rhwydo ddwywaith ar ôl 65 a 69 munud, gyda Sean Morrison yn sgorio’r llall ar ôl i Benik Afobe sgorio i Millwall.

“Rydyn ni’n sicr yn dda wrth sgorio o groesiadau, mae hynny’n sicr, ond maen nhw i gyd yn cyfri,” meddai Mick McCarthy.

“Does dim ots gyda fi sut maen nhw’n dod, parhau i ennill gemau yw’r nod.

“Mae’n siŵr mai nhw [Millwall] gafodd y gorau o’r hanner cyntaf.

“Roedden ni’n edrych yn goesau i gyd a ddim yn edrych yn barod amdani, ond roedden ni’n well yn yr ail hanner ac fe wnaeth yr eilyddion wahaniaeth.

“Rydyn ni bob amser yn sicrhau ein bod ni’n symud yn dda yn y cwrt cosbi.

“Does dim byd clyfar amdano fe, dim ond bod gyda ni rai da am benio’r bêl a chyflwyno’r bêl yn dda.”

Yn ôl McCarthy, mae gan Gaerdydd obaith o gyrraedd y chwech uchaf ar ddiwedd y tymor os ydyn nhw’n parhau i berfformio’n gyson.