Fe fydd y Cymro Mark Williams yn herio Gary Wilson yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer Agored Prydain yng Nghaerlŷr.

Williams o Went oedd yr unig chwaraewr ymhlith yr 16 uchaf yn netholion y byd i gyrraedd yr wyth olaf, ac fe gurodd e Jimmy Robertson o 4-1 yn y rownd gyn-derfynol gyda thri rhediad o 50 neu fwy.

Yn rownd yr wyth olaf, fe drechodd e Ricky Waldon o 4-3, er i’r Sais gael pedwar rhediad o 50 neu fwy, gan gynnwys 56 yn y ffrâm dyngedfennol.