Llwyddodd Casnewydd i guro Tranmere 1-0 yn Prenton Park gyda gôl gan Alex Fisher.

Y tîm cartref oedd yn gwneud y rhan fwyaf o’r ymosod yn yr hanner cyntaf, a chafodd golwr Casnewydd ei gadw’n brysur. Cafodd sawl gyfle ei golli, a pharhau’n ddi-sgôr a wnaeth y gêm tan i Alex Fisher sgorio ar yr awr.

Casnewydd yw’r tîm cyntaf i sgorio yn erbyn Tranmere yn y Gynghrair y tymor yma.