Aden Flint oedd seren y gêm unwaith eto y pnawn yma wrth i ddwy gôl ganddo sicrhau buddugoliaeth glir o 3-1 i Gaerdydd yn erbyn Millwall.
Mae ei lwyddiant yn golygu ei fod wedi sgorio pedair gôl o fewn pum niwrnod wrth ailadrodd ei gamp yn erbyn Peterborough yn gynharach yr wythnos yma.
Mewn gêm a arhosodd yn ddi-sgôr tan y 66ed munud, sgoriodd Aden Flint ddwy gôl o fewn tri munud i’w gilydd, gan roi’r tîm cartref yn gysurus ar y blaen.
Er hyn, fe wnaeth Millwall daro’n ôl saith munud yn ddiweddarach gyda gôl gan Benik Afobe, gan arwain at ddeng munud llai cysurus i Gaerdydd. Wedyn llwyddodd y capten Sean Morrison i benio tafliad hir gan Marlon Pack i mewn i’r rhwyd, gan wneud y fuddugoliaeth haeddiannol yn anochel.
Gwrthododd chwaraewyr Millwall ag ymuno â’r tîm cartref i blygu glin cyn cychwyn y gêm, ac roedd eu cefnogwyr unwaith eto yn bŵio’r safiad gwrth-hiliol. Cafodd y weithred ei chymeradwyo’n frwd gan gefnogwyr Caerdydd er hynny.