Methodd Wrecsam o drwch blewyn â chipio tri phwynt yn eu gêm gyntaf yn y Gynghrair Genedlaethol wrth i gôl gan Solihull Moors ar y funud olaf arwain at gêm gyfartal o 2-2.

Mae gobeithion y Dreigiau yn uchel y gallan nhw geisio am ddyrchafiad awtomatig yn dilyn cael eu prynu gan sêr Hollywood Rob McElhenney a Ryan Reynolds yn gynharach eleni.

Er i Joe Sbarra roi’r tîm cartref ar y blaen, buan y daeth dwy gôl gyflym gan Paul Mullin a David Jones â goruchafiaeth ar y cae i Wrecsam.

Fodd bynnag, pan oedd pethau’n edrych ar ben ar Solihull, ergydiodd Joe Sbarra ei ail gôl fwy na saith munud i’r amser ychwanegol ar ôl i Wrecsam fethu â chlirio cic gornel.