Llwyddodd Joel Piroe i sicrhau buddugoliaeth i’r Elyrch gydag unig gôl y gêm yn erbyn Bristol City yn Ashton Gate neithiwr.
Roedd ergydiwr newydd Abertawe wedi torri drwodd o ganol cael 19 munud i mewn i’r gêm, gan daro’r bêl yn erbyn y postyn cyn ei hergydio’n ôl yn hyderus i’r rhwyd.
Roedd yn ddigon i gipio’r tri phwynt cyntaf i Abertawe eu hennill ers i Russell Martin gychwyn fel rheolwr.
Mewn gêm a aeth yn wyllt ar brydiau, cafodd y dyfarnwr Geoff Eltringham ei gadw’n brysur gan gosbi 10 chwaraewr, chwech ohonyn nhw o Abertawe.
Gallai gêm gyfartal fod yn adlewyrchiad tecach o’r chwarae, ond doedd hynny ddim yn poeni’r garfan fawr o gefnogwyr yr Elyrch wrth ddathlu’n frwd ar y chwiban olaf.
Ar ôl y gêm, cafodd Joel Piroe ei ganmol gan y rheolwr.
“Mae wedi gweithio’n galed, ac fe wnaeth fanteisio’n fedrus ar ei gyfle gyda gôl wych,” meddai Russell Martin. “Mae’n dda yn dechnegol ac yn athletwr rhagorol, felly dw i’n siwr fod llawer mwy i ddod ganddo.”
Roedd yn cyfaddef er hynny nad oedd perfformiad y tîm wedi bod yn dda:
“Mae’n debyg mai dyma’r gwaethaf inni chwarae’r tymor yma, ond roedd y tri phwynt yn bwysicach,” meddai. “Fe fyddwn ni’n dysgu ac yn gwella o’r gêm hon. Doedd ein penderfyniadau ddim cystal ag y gallen nhw fod ar brydiau. Ond fe wnaethon ni lynu gyda’n gilydd a doedd dim llawer o adegau o berygl yn yr ail hanner.”