Mae chwaraewr canol y cae Cymru a Manchester United, Dylan Levitt, wedi ymuno â Dundee United ar fenthyciad tymor hir.

Mae’r chwaraewr 20 oed wedi ennill naw cap rhyngwladol ac roedd yng ngharfan Cymru yn Ewro 2020, gan ddod oddi ar y fainc i chwarae yn erbyn yr Eidal yn Rhufain.

Daeth unig ymddangosiad Levitt i dîm cyntaf Manchester United pan ddechreuodd mewn buddugoliaeth 2-1 yng Nghynghrair Europa yn erbyn Astana ym mis Tachwedd 2019.

Mae hefyd wedi bod ar fenthyg gyda Charlton ac Istra 1961 yn Croatia, ac mae’n gobeithio datblygu ei yrfa ymhellach yn Tannadice.

Dywedodd Levitt wrth wefan swyddogol Dundee Utd: “Rwy’n edrych ymlaen at fod yma. Cyn gynted ag y clywais fod gan United ddiddordeb, roedd yn gam yr oeddwn am ei gymryd.

“Rwyf yma i helpu Dundee United i gyflawni eu hamcanion ond rwyf hefyd yn gweld hyn fel rhan bwysig o’m datblygiad personol.”

Ychwanegodd prif hyfforddwr Tannadice, Tam Courts: “Mae Dylan yn chwaraewr canol y cae amlbwrpas sy’n mwynhau rheoli gemau a chynorthwyo’r ymosod.

“Mae eisoes yn chwaraewr rhyngwladol i Gymru, ac yn rhan o’u carfan Euros yn ddiweddar, mae’n chwaraewr ifanc sydd ag uchelgais i chwarae ar y lefel uchaf.

“Mae’n dod â rhywbeth gwahanol, a fydd yn rhoi gwell opsiynau a mwy o hyblygrwydd i ni ar gyfer y tymor sydd i ddod.”

Gallai Levitt wneud ei ymddangosiad cyntaf ddydd Sul yn erbyn St Johnstone.