Bydd Abertawe yn croesi pont Hafren heno (dydd Gwener, 20 Awst) er mwyn herio Bristol City yn y Bencampwriaeth.

Ar ôl colli gartref yn erbyn Stoke City yn gynharach yn yr wythnos, bydd yr Elyrch yn gobeithio am ganlyniad llawer mwy positif yn Ashton Gate.

Fe ddywedodd eu rheolwr Russell Martin ar ôl y golled i Stoke bod lefel ffitrwydd y chwaraewyr ddim ar ei orau oherwydd y diffyg gemau i baratoi at y tymor, a dydy’r ffaith mai hon fydd y bumed gêm mewn 13 diwrnod ddim yn mynd i helpu o ran blinder y chwaraewyr.

Mae gan Bristol City bedwar pwynt hyd yma’r tymor hwn, ac mae’r gwynt yn eu hwyliau ar ôl buddugoliaeth gyffrous dros Reading ar nos Fawrth, 17 Awst.

Pe bai Abertawe’n ennill, dyma fyddai eu hail fuddugoliaeth yn unig mewn 28 mlynedd oddi cartref i Bristol City.

Bydd y gêm i’w gweld ar Sky Sports, gyda’r gic gyntaf am 7.45yh.

“Cyfle i brofi ein hunain”

Mae rheolwr Abertawe yn hyderus y bydd ei dîm yn dangos eu gallu ym Mryste.

“Rydyn ni wedi gorfod trawsnewid yn gyflym unwaith eto, ond mae’n dda bod gennyn ni gyfle i brofi ein hunain,” meddai Russell Martin.

“Fe awn ni yno a cheisio gorfodi ein harddull ni ar y gêm a gweld sut eith hi o hynny.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd hi’n anodd. Maen nhw’n dîm da gyda rheolwr rhagorol sydd â digon o brofiad ar y lefel hon, a’r lefel uwch.

“Fe es i yno cyn y tymor gyda fy nghlwb blaenorol [MK Dons] felly rwy’n gwybod beth i’w ddisgwyl.

“Yn bennaf, mae angen i ni fod yn fwy bygythiol wrth ymosod, ond gobeithio gwnawn ni weld gwelliant ym mhob agwedd.”

Newyddion tîm

Mae Abertawe yn disgwyl gweld Kyle Naughton a Ryan Bennett yn dychwelyd heno ar ôl iddyn nhw gael mân anafiadau ar ddechrau’r tymor.

Bydd y wynebau newydd Ethan Laird a Joël Piroe yn gobeithio dechrau’r gêm ar ôl iddyn nhw wneud argraff oddi ar y fainc yn erbyn Stoke, gyda’r ymosodwr Piroe yn sgorio unig gôl Abertawe nos Fawrth, 17 Awst.

Mwy na thebyg fydd Connor Roberts yn parhau i fod allan o’r garfan ar ôl yr anaf a gafodd yn Rownd 16 Ewro 2020 yn erbyn Denmarc.