Mae tîm criced Morgannwg wedi ennill Cwpan Royal London ar ôl curo Durham o 58 rhediad yn Trent Bridge yn Nottingham.

Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ennill cwpan undydd, a’r tro cyntaf iddyn nhw ennill tlws ers 2004 pan enillon nhw’r gynghrair undydd am yr ail waith mewn tri thymor.

Ar ôl cael eu gwahodd i fatio, sgorion nhw 296 am naw yn eu 50 pelawd, wrth i’r capten Kiran Carlson sgorio 82, ac roedd cyfraniadau o 36 gan Nick Selman a 33 gan Andrew Salter.

Cipiodd Matty Potts a Ben Raine dair wiced yr un i gyfyngu Morgannwg i gyfanswm llai nag y dylen nhw fod wedi’i gael.

O safbwynt Durham, sgoriodd Sean Dickson 84 heb fod allan wrth i’r batwyr eraill chwalu o’i gwmpas wrth iddyn nhw golli wicedi’n rhy gyson, ac eithrio Cameron Bancroft (55).

Cipiodd y troellwr Andrew Salter dair wiced am 42, ac roedd dwy wiced yr un i Lukas Carey a Joe Cooke.

Manylion y gêm

Yn 23 oed, y capten Carlson oedd un o sêr Morgannwg wrth iddo arwain y tîm yn absenoldeb capten y clwb, Chris Cooke, sydd wedi bod yn chwarae yn y Can Pelen.

Daeth ei gyfraniad o 82 oddi ar 59 o belenni.

Roedd Morgannwg wedi bod yn 51 am ddwy ar ôl 12 pelawd, ond ychwanegodd Carlson a Nick Selman 106 mewn 15.4 o belawdau, wrth i Carlson fynd y tu hwnt i’w sgôr gorau erioed o 63 mewn gêm Rhestr A, gyda deg pedwar a thri chwech.

Roedd Morgannwg dan bwysau am gyfnod wrth i Potts gipio tair wiced mewn wyth pelen, gan gynnwys dwy mewn dwy belen – a hynny er eu bod nhw’n 157 am ddwy ar un adeg.

Roedden nhw’n 160 am bump o fewn dim o dro, ond tarodd Salter 33 oddi ar 22 o belenni, wrth i Forgannwg sgorio 106 oddi ar y 13 pelawd olaf.

Nod o 297 oedd gan Durham, ond roedden nhw’n 74 am bedair o fewn dim o dro wrth i’r troellwr Salter fanteisio ar y llain.

Sgoriodd Graham Clark ac Alex Lees 47 wrth agor y batio, gyda Salter yn gwaredu’r ddau fatiwr allweddol cyn iddyn nhw allu gwneud niwed.

Ychwanegodd Cameron Bancroft a Sean Dickson 85 i roi llygedyn o obaith i Durham, ac roedd angen 138 oddi ar 17 o belawdau arnyn nhw yn y pen draw.

Ond rhedodd Dickson allan o bartneriaid wrth i Durham gwrso’n rhy galed, gyda Cooke a Carey yn cipio dwy wiced yr un i gau pen y mwdwl ar y fuddugoliaeth wrth i Michael Hogan, y bowliwr 40 oed gipio’r wiced olaf i ddechrau’r dathliadau.

Dim ond Salter a Hogan oedd ar ôl o’r tîm oedd wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth hon yn 2013, pan gollon nhw yn erbyn Swydd Nottingham.