Mae Clwb Pêl-droed Heart of Midlothian yn yr Alban yn obeithiol o arwyddo blaenwr Cymru, Ben Woodburn, o Lerpwl.

Mae’r clwb, sydd yn Uwchgynghrair yr Alban, yn ceisio perswadio Lerpwl i ganiatáu i’r chwaraewr rhyngwladol 21 oed symud i’r Alban ar fenthyg.

Ond dywedodd rheolwr Hearts, Robbie Neilson, nad yw’r fargen wedi ei tharo eto a’i fod yn barod i aros yn amyneddgar.

Mae Woodburn wedi gwneud 11 ymddangosiad i dîm cyntaf Lerpwl ac wedi ennill 10 cap rhyngwladol.

Mae wedi bod ar gyfnodau benthyg gyda Sheffield United, Rhydychen a Blackpool yn flaenorol, heb lawer o lwyddiant.

Dywedodd Neilson: “Ry’n ni’n dal i drafod gyda Lerpwl. Ry’n ni bron â tharo bargen, dim ond mater o geisio sicrhau bod pethau’n cael eu cwblhau.

“Mae’n dal i fod yn chwaraewr Lerpwl ar hyn o bryd… [ond] mae gennym ddiddordeb mawr [ynddo].

“Dydw i ddim eisiau sôn gormod amdano. Ry’n ni’n dal i drafod, fel gyda chwaraewyr eraill hefyd. Cawn weld sut mae’n mynd yn ystod y dyddiau nesaf.

“Ry’n ni wedi aros nifer o fisoedd i gael y chwaraewyr cywir i mewn. Ry’n ni’n parhau i wneud hynny nawr.

“Os oes angen i ni aros, mae angen i ni aros.”