Mae S4C wedi dweud wrth golwg360 fod “trafodaethau ar y gweill” ynghylch darlledu gemau rygbi’r hydref.

Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad y bydd Amazon Prime Video yn dangos 17 o 20 gêm yr hydref, gan gynnwys gemau Cymru.

Cafodd pob un o gemau’r hydref y llynedd eu darlledu’n rhad ac am ddim ar S4C.

Fe wnaeth miliynau o bobol wylio gemau’r hydref y llynedd ar Amazon Prime, a bydd Prime Video yn darlledu eleni ym mhob un o wledydd Prydain, Ffrainc a’r Eidal.

Bydd Prime Video hefyd ynn darlledu’r holl gemau yng Ngweriniaeth Iwerddon, ac eithrio gemau Iwerddon sy’n cael eu dangos ar RTE.

Gemau Cymru

Cymru v Seland Newydd, Hydref 30, 5.15yp

Cymru v De Affrica, Tachwedd 6, 5.30yp

Cymru v Ffiji, Tachwedd 14, 3.15yp