Mae Denis Law, un o’r mawrion yn hanes Clwb Pêl-droed Manchester United, wedi datgelu ei fod yn byw â dementia cymysg.

Dechreuodd yr Albanwr 81 oed ei yrfa yn Huddersfield cyn treulio cyfnodau gyda Manchester City a Torino ac yna yn Old Trafford o 1962.

Sgoriodd e 237 o goliau mewn 404 o gemau, ac mae’n cyd-ddal y record am y nifer fwyaf o goliau dros yr Alban (30).

Mewn datganiad, dywed ei fod e eisiau “bod yn agored” am y cyflwr sy’n golygu bod ganddo fe fwy nag un math o ddementia, sef Alzheimer a dementia fasgwlaidd.

“Mae hon wedi bod yn flwyddyn anodd dros ben i bawb, a dydy’r cyfnodau hir o fod yn ynysig yn sicr ddim wedi bod o gymorth,” meddai.

“Mae’n afiechyd eithriadol o heriol a phroblematig a dw i wedi gweld nifer o ffrindiau yn mynd drwy hyn.

“Rydych chi’n gobeithio na fydd yn digwydd i chi, hyd yn oed yn gwneud jôcs amdano wrth anwybyddu’r arwyddion cynnar oherwydd dydych chi ddim eisiau iddo fod yn wir.

“Rydych chi’n mynd yn grac, yn rhwystredig ac yna’n poeni. Poeni am eich teulu, gan mai nhw fydd y rhai yn ymdopi â fe.”

Daw’r newyddion lai na blwyddyn ar ôl i Bobby Charlton, ei gyd-chwaraewr yn Old Trafford, ddatgelu ei fod yntau’n byw â dementia hefyd.