Mae Rob Page wedi cyhoeddi bod Alan Knill wedi’i benodi’n aelod o’i dîm hyfforddi ar gyfer ymgyrch rhagbrofol Cwpan y Byd 2022.

Bydd Knill yn ymuno â’r tîm ar gyfer y gemau fis Medi, ac yn parhau yn y swydd am weddill yr ymgyrch o leiaf.

Enillodd Knill un cap dros Gymru yn 1988, ac roedd yn hyfforddwr cynorthwyol gyda Sheffield United wrth iddyn nhw godi o’r Adran Gyntaf i’r Uwch Gynghrair yn ddiweddar.

Yn Sheffield, fe wnaeth e weithio gyda Chymry ifainc fel David Brooks, Rhys Norrington-Davies ac Ethan Ampadu – tri aelod o’r garfan yn Ewro 2020.

Mae e hefyd wedi rheoli clybiau fel Rotherham, Bury a Scunthorpe yng Nghynghrair Bêl-droed Lloegr.

‘Cyffrous iawn’

Dywed Alan Knill ei fod yn falch iawn o gael derbyn cyfrifoldebau’r swydd.

“Rwy wedi cyffroi’n fawr fy mod yn ymuno â Rob, y staff a gweddill y garfan,” meddai.

“Chwaraeais dros Gymru ac yn ddiweddar, collais fy nhad a oedd yn Gymro angerddol a balch, a byddai wedi bod wrth ei fodd.

“Roeddwn i wrth fy modd pan gefais yr alwad gan Rob, rwy’ wedi gweithio gyda nifer o’r chwaraewyr ac rwy’n gyffrous i gwrdd â’r garfan gyfan.

“Fy rôl i yw cefnogi Rob, helpu ar y maes ymarfer a dadansoddi’r gwrthwynebwyr.

“Os galla i helpu i barhau i adeiladu llwyddiant ein tîm cenedlaethol, bydda i’n hapus iawn.”

‘Cyfoeth o brofiadau’

Mae Rob Page yn falch o gael Alan Knill wrth ei ochr ar gyfer y gemau i ddod.

“Rwy’n falch iawn bod Alan yn ymuno â ni ar gyfer gweddill ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd,” meddai.

“Rwy’ wedi adnabod Alan ers amser maith.

“Mae’n dod â chyfoeth o brofiadau i’r tîm hyfforddi, ac rwy’n falch iawn ei fod e gyda ni wrth i ni geisio cyrraedd ein Cwpan y Byd cyntaf ers 1958.”