Mae Morgannwg yn mynd am eu tlws cwpan undydd cyntaf erioed wrth iddyn nhw herio Durham yn rownd derfynol cystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London yn Trent Bridge yn Nottingham heddiw (dydd Iau, Awst 19).
Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw gyrraedd rownd derfynol cwpan undydd ers 2013, pan gollon nhw yn erbyn Swydd Nottingham, a’r tro cyntaf iddyn nhw gyrraedd ffeinal cystadleuaeth ers iddyn nhw gymhwyso ar gyfer Diwrnod Ffeinals cystadleuaeth ugai pelawd y Vitality Blast.
Cyrhaeddon nhw rownd derfynol Cwpan Royal London ar ôl gorffen ar frig eu grŵp a churo Essex yn y rownd gyn-derfynol ddydd Llun (Awst 16).
Dim ond dau aelod o dîm Morgannwg oedd wedi chwarae yn y rownd derfynol yn 2013 sy’n dal yn chwarae, sef y capten Kiran Carlson a’r bowliwr profiadol Michae Hogan.
Dydy Morgannwg ddim wedi ennill tlws ers iddyn nhw ennill y gynghrair undydd ers 2004.
‘Rydyn ni wedi cyffroi’
Mae Morgannwg wedi cyrraedd y rownd derfynol yn absenoldeb y capten Chris Cooke, y chwaraewyr amryddawn David Lloyd a Dan Douthwaite, y bowliwr cyflym Timm van der Gugten a’r batiwr Colin Ingram.
Maen nhw i gyd wedi bod yn chwarae yn y Can Pelen, sydd wedi rhoi’r cyfle i rai o’r to iau gael cyfle i chwarae, ac i Carlson, y batiwr o Gaerdydd, arwain y tîm.
Un o’r rheiny sydd wedi serennu yw’r chwaraewr amryddawn ifanc Joe Cooke, seren y gêm yn erbyn Essex sydd yn gydradd ar frig y rhestr fowlio am y nifer fwyaf o wicedi yn y gystadleuaeth, tra bod Nick Selman hefyd wedi sgorio 385 o rediadau wrth agor y batio.
“Mae’r bois yn awchu i wneud yn dda,” meddai Carlson.
“Mae pawb yn mynd i fod yn meddwl am y gêm, ond dw i eisiau i ni fynd allan yno a’i mwynhau hi.
“Rydyn ni wedi cyffroi.
“Fe wnawn ni ein gorau i’w hennill hi a dw i mor falch o’r bois am gyrraedd y ffeinal.
“Rydyn ni eisiau mwynhau ein hunain allan yno ac awyrgylch y gêm fawr.
“Roedd y gystadleuaeth hon bob amser yn mynd i fod ychydig yn rhyfedd gyda chwaraewyr i ffwrdd gyda’r Can Pelen a thimau’n addasu.
“Mae wedi bod yn enfawr i ni fod chwaraewyr sydd wedi dod i mewn wedi bod yn destun balchder iddyn nhw eu hunain ac i’r tîm, oherwydd fod gan rai ohonyn nhw bwynt i’w brofi.
“Mae wedi rhoi cyfle i’r bois ac mae pob person sydd wedi dod i mewn wedi creu argraff.
“Mae Michael [Hogan] wedi bod yn anghredadwy trwy gydol y gystadleuaeth gyfan.
“Mae e wir wedi arwain ein hymosod a dw i’n credu bod ganddo fe ychydig flynyddoedd ar ôl os yw e’n bowlio fel hyn.”
Perfformiadau yn erbyn Durham
Dyma’r gêm undydd gyntaf rhwng Morgannwg a Durham ers saith mlynedd, y ddwy sir diweddaraf i ymuno â’r siroedd dosbarth cyntaf.
Durham enillodd y gêm undydd ddiweddaraf rhwng y ddwy sir, a hynny o 52 rhediad yn 2014, wrth i Paul Collingwood, y chwaraewr amryddawn rhyngwladol, gipio pedair wiced am 13 a Graham Onions, y bowliwr rhyngwladol, bedair wiced am 48.
Daeth yr unig gyfraniad o bwys i Forgannwg gan Jacques Rudolph, oedd wedi sgorio 61 gyda’r bat.
Dydy Morgannwg ddim wedi curo Durham ers 2012, pan enillon nhw o 15 rhediad yn Llandrillo yn Rhos.
Morgannwg mewn gemau terfynol
Hon fydd pedwaredd gêm derfynol Morgannwg mewn cwpan undydd – daeth y gemau eraill yn 1977, 2000 a 2013 ac fe gollon nhw bob un.
Yn 1977, roedd Morgannwg yng nghanol cyfnod cythryblus yn eu hanes yn dilyn ymadawiad nifer o’r chwaraewyr amlycaf, gan gynnwys y seren tramor Majid Khan, yr haf blaenorol.
Ond fe guron nhw Swydd Gaerwrangon, Surrey a Swydd Gaerlŷr ar eu ffordd i Lord’s, lle sgorion nhw 177 am naw yn eu 60 pelawd, gyda chyfraniadau o 47 gan John Hopkins a 62 gan Mike Llewellyn, oedd wedi taro un o’r ergydion chwech mwyaf erioed yn y cae hanesyddol yn Llundain.
Er gwaetha’r ymdrechion, arweiniodd Clive Radley, batiwr rhyngwladol Lloegr, y Saeson i fuddugoliaeth o bum wiced.
Y capten Matthew Maynard oedd wedi serennu i Forgannwg yn 2000, gan ennill gwobr seren y gêm am ei 104 yn erbyn Swyd Gaerloyw yn ffeinal Cwpan Benson & Hedges – ac fe ddaeth ar ôl iddo fe daro canred yn erbyn Surrey yn y rownd gyn-derfynol, y batiwr cyntaf erioed i gyflawni’r gamp mewn dwy gêm yn olynol.
Yr Awstraliad Ian Harvey enillodd y gêm i Swydd Gaerloyw, gyda phum wiced am 34 cyn i Tim Hancock a Matt Windows daro hanner canred yr un i ennill o saith wiced.
Ar ôl curo Hampshire yn y rownd gyn-derfynol, diolch i 74 heb fod allan gan Jim Allenby a phedair wiced Michael Hogan, cyrhaeddodd Morgannwg rownd derfynol Cwpan Yorkshire Bank40 yn 2013 yn Lord’s, gan herio Swydd Nottingham.
Dechreuodd Morgannwg yn gryf, gan gyfyngu’r gwrthwynebwyr i 90 am bedair o fewn 19 pelawd, gydag Andrew Salter a Simon Jones yn cipio dwy wiced yr un.
Ond tarodd Swydd Nottingham yn ôl wrth i David Hussey a Chris Read adeiladu partneriaeth o 99 i gyrraedd 244 am wyth ar ddiwedd eu 40 pelawd.
Tarodd Chris Cooke 46 i Forgannwg cyn i Stuart Broad, Ajmal Shahzad a Samit Patel dair wiced yr un wedyn, wrth i’r sir Gymreig gael eu bowlio allan am 157 mewn llai na 33 pelawd, gan golli o 87 rhediad.
Dim ond 33 o chwaraewyr Morgannwg sydd wedi chwarae mewn ffeinal, gan gynnwys dau o’r garfan bresennol, tra bydd naw chwaraewr newydd yn ychwanegu eu henwau at y rhestr heddiw.
Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), L Carey, J Cooke, T Cullen, A Gorvin, M Hogan, S Reingold, B Root, H Rutherford, A Salter, N Selman, C Taylor, J Weighell
Carfan Durham: C Bancroft, D Bedingham, S Borthwick (capten), J Campbell, G Clark, H Crawshaw, S Dickson, L Doneathy, N Eckersley, A Lees, M Potts, C Rushworth, B Raine, M Salisbury, L Trevaskis