Mae gobaith newydd i gefnogwyr parc sglefrio gwerth £500,000 a oedd yn edrych yn annhebygol o fynd yn ei flaen.
Yn hwyr yr wythnos diwethaf, dywedodd Cyngor Cymuned Llannon eu bod nhw’n tynnu cais cynlluniau ar gyfer y cyfleuster tu allan i’r Tymbl yn Sir Gaerfyrddin yn ôl.
Dyna’r trydydd lleoliad oedd wedi cael ei gynnig ar gyfer y parc sglefrio, a oedd wedi’i glustnodi ar gyfer ardal wastad ym Mharc Coetir Mynydd Mawr.
Ond roedd peth gwrthwynebiad ymysg nifer o drigolion yr ardal oherwydd ei fod e drws nesaf i dro gylchol boblogaidd sy’n amgylchynu dôl fawr.
Yn ei dro, fe wnaeth hynny arwain at bryder ymysg cefnogwyr y parc sglefrio oherwydd byddai oedi mewn penderfynu ar y cais yn golygu y bydden nhw’n methu’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am gyllid gan y Loteri Genedlaethol.
Estyniad
Nawr, lai nag wythnos ar ôl cyhoeddi eu bod nhw’n tynnu’r cais yn ôl, mae’r cyngor cymuned wedi dweud fod estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer cael cyllid wedi’i gymeradwyo.
Dywedodd cadeirydd y cyngor cymuned, Michael Jones, ei fod yntau a chydweithwyr wedi bod yn trio dod o hyd i ddatrysiad.
“Rydyn ni wrth ein boddau’n cyhoeddi ein bod ni wedi derbyn gohebiaeth heddiw (18 Awst) yn cadarnhau estyniad pellach i’n dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i Gronfa Cymuned y Loteri Genedlaethol er mwyn archwilio’r datblygiad ymhellach,” meddai.
“Mae’n rhaid i’r parc [sglefrio] fod yn y Tymbl er mwyn bodloni’r meini prawf cyllid felly byddwn ni’n edrych eto ar leoliadau addas o fewn ein rheolaeth.
“Bydd ymgynghoriadau’n cael eu cynnal ar sawl ffurf yn ystod mis Medi, ac rydyn ni’n annog yr holl drigolion i gymryd rhan.”
“Dim geiriau”
Mae’r rhaglen wedi cael ei chynnig a’i hyrwyddo ers blynyddoedd gan grŵp o’r enw Urban Riot Sports Spark, a siaradodd am y siom ar ôl i’r cais cynllunio gael ei dynnu’n ôl.
Yn ôl neges ar Facebook, dywedodd y grŵp y bydden nhw’n rhoi gorau i’w gweithgareddau – ond maen nhw’n ôl yn weithredol bellach.
Dywedodd cadeirydd y grŵp, y sglefrfyrddiwr James Dexter, am yr estyniad i’r dyddiad cau: “Mae’n rhyfeddol, hollol anhygoel.
“Â bod yn onest, does gen i ddim geiriau. Mae’n golygu’r byd i ni.”
Fe wnaeth y dyn 26 oed ddiolch i’r cyngor cymuned a’r cyngor sir, sydd wedi addo rhoi £250,000 tuag at y parc sglefrio, am eu cefnogaeth.
Dywedodd Mr Dexter fod y grŵp wedi derbyn nifer o negeseuon yn eu cefnogi wedi’r cyhoeddiad fod y cais cynllunio’n cael ei dynnu’n ôl.
Gwrthwynebiad
Dyw’r gobaith ddim yn golygu y bydd y prosiect yn bendant yn mynd yn ei flaen oherwydd bydd angen cais cynllunio ac ystyried barn preswylwyr a grwpiau eraill.
Roedd Ruth Davies, gwirfoddolwr gyda grŵp Ffrindiau Coetir Mynydd Mawr, ymhlith y rhai nad oedd eisiau i’r parc sglefrio gael ei adeiladu ger y ddôl.
Roedd hi’n teimlo y byddai ardal o fewn y parc 80 ers yn agosach at y maes parcio, sydd wedi’i glustnodi ar gyfer beicio mynydd ac ymlacio, yn well lleoliad i’r cyfleuster.
Dywedodd hi ac eraill fod angen isadeiledd megis toiledau a CCTV gyda’r parc sglefrio.
Gwrando ar bryderon
Roedd sglefrfyrddio yn gystadleuaeth yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf yn Tokyo eleni, gyda Skye Brown, 13, yn ennill y fedal efydd i Dîm GB yn rownd derfynol slefrfyrddio parc i fenywod.
Dywedodd cynghorydd Llannon, Emlyn Dole, sy’n gynghorydd cymuned ac yn arwain Cyngor Sir Gaerfyrddin, yn gynharach yr wythnos hon nad parc sglefrio o’r radd flaenaf yw’r math o gyfleuster mae ardal ddifreintiedig fel Cwm Gwendraeth yn elwa ohono fel arfer.
Mae’r Cynghorydd Dole wedi cynnig cefnogaeth aelodau’r Riot Urban Sports Spark dros y blynyddoedd, ond mae e wedi dweud bod rhaid gwrando ar bryderon preswylwyr hefyd.
Y cynnig gwreiddiol oedd adeiladu’r cyfleuster ym Mharc y Tymbl ond cafodd ei symud i ardal wahanol am resymau ecolegol. Ond roedd yr ail leoliad yn agosach i dai pobol, felly roedd gwrthwynebiad. Arweiniodd hynny at gynnig Mynydd Mawr.
Mae miloedd hefyd wedi arwyddo deiseb yn galw am barc sglefrio newydd yn Abertawe, a bu un o sêr BMX y ddinas, James Jones, yn siarad gyda Golwg am y mater yr wythnos hon, isod.