Mae Bellator, yr hyrwyddwyr crefftau ymladd cymysg (mixed martial arts) wedi cyhoeddi y bydd Brett Johns yn ymladd yn erbyn Eric Perez o Fecsico yn Bellator 268 ar Hydref 16.

Bydd y Cymro Cymraeg 29 oed o Abertawe yn ceisio ennill ei frwydr gyntaf ers ymuno â Bellator o’r UFC.

Collodd ei frwydr gyntaf gyda’r cwmni ym mis Mai yn Bellator 259 yn erbyn Danny Sabatello.

Roedd wedi ennill ei ddwy frwydr ddiwethaf gyda’r UFC cyn ymuno â Bellator, ac mae ganddo record broffesiynol o 17 buddugoliaeth a thair colled.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn y Footprint Center yn Phoenix, Arizona.