Mae’r Gemau Paralympaidd yn dechrau yn Tokyo heddiw (dydd Mawrth, Awst 24), a’r Cymro Aled Siôn Davies yw cyd-gapten tîm Prydain gyda Hannah Cockroft.
Eu cyd-athletwyr sydd wedi’u dewis nhw i arwain y tîm, sy’n arwydd o’r parch mawr atyn nhw yn y byd para-athletau.
Bydd Aled Siôn Davies yn amddiffyn ei deitl F63 taflu pwysau yn dilyn ei fuddugoliaeth yn Rio de Janeiro bum mlynedd yn ôl, tra bydd Cockroft yn cystadlu yn y ras 100m mewn cadair olwyn yn nosbarth T34.
“Mae’n anrhydedd lwyr cael fy newis yn gapten, yn enwedig gan aelodau fy nhîm,” meddai Davies.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, dw i wedi cael fy ysbrydoli gymaint gyda sut mae pawb wedi addasu, wedi esblygu ac wedi goresgyn cymaint o rwystrau.
“Y tîm hwn yw’r tîm para-athletau gorau yn y byd, mae pobol ein ofn ni ac yn ein hedmygu ni, felly fy neges i iddyn nhw yw ei amgyffred e, ei fwynhau e a gwneud eich hunain yn falch.”
Ellie Simmonds a John Stubbs yn cludo baner Prydain
Ellie Simmonds, y nofwraig a gafodd ei haddysg uwchradd yn Abertawe, a John Stubbs, y saethyddwr o Gwmbrân, fydd yn cludo baner Prydain yn y seremoni agoriadol.
“Mae Ellie a John, ill dau, yn esiampl o’r hyn mae’n ei olygu i fod yn athletwr ParalympicsGB,” meddai Penny Briscoe, chef de mission tîm Prydain.
“Mae eu rhagoriaeth ar y cae chwarae yn ogystal â’u gonestrwydd, eu harweiniad a’u hymrwymiad i’r tîm yn rhywbeth arbennig iawn.
“Dw i wrth fy modd y bydd Ellie a John yn cyd-gludo Baner yr Undeb ddydd Mawrth a does gen i ddim amheuaeth, drwy eu hesiampl, y byddan nhw’n ysbrydoli tîm ParalympicsGB cyfan i gyflawni pethau gwych dros y 12 diwrnod o gystadlu sydd i ddod.”
Y Cymry yn y Gemau
Dyma’r athletwyr o Gymru fydd yn cynrychioli Prydain:
David Phillips, 55 oed o Gwmbrân (saethyddiaeth)
John Stubbs, 56 oed o Sir Ddinbych (saethyddiaeth gyfansawdd agored)
Hollie Arnold, 27 oed o Grimsby (gwaywffon)
Olivia Breen, 25 oed o Guildford (naid hir a 100m T38)
Aled Siôn Davies, 30 oed o Gaerdydd (taflu pwysau F63)
Kyron Duke, 29 oed o Gwmbrân (taflu pwysau F41)
Sabrina Fortune, 24 oed o’r Wyddgrug (taflu pwysau F20)
Harri Jenkins, 25 oed o Gastell-nedd (100m T33)
Harrison Walsh, 25 oed o Abertawe (disgen F64)
David Smith, 31 oed o Abertawe (Boccia, BC1 a BC1/2 cymysg)
Laura Sugar, 30 oed o Gaergrawnt (canŵio)
James Ball, 30 oed o Dorfaen (seiclo)
Georgia Wilson, 25 oed o Abergele (marchogaeth)
Jack Hodgson, 24 oed o Lanilltud Fawr (jiwdo +100kg)
Benjamin Pritchard, 29 oed o Abertawe (rhwyfo)
Joshua Stacey, 21 oed o Gaerdydd (tenis bwrdd)
Paul Karabardak, 35 oed o Abertawe (tenis bwrdd)
Tom Matthews, 29 oed o Aberdâr (tenis bwrdd)
Beth Munro, 28 oed o Lerpwl (taekwondo)
Gemma Collis-McCann, 28 oed o Fanceinion (cleddyfaeth mewn cadair olwyn)
Jim Roberts, 33 oed o’r Trallwng (rygbi mewn cadair olwyn)