Mae cyn-fyfyriwr y Gyfraith o Brifysgol Bangor wedi cael ei ddewis i rwyfo dros dîm Prydain yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo.

Bydd Benjamin Pritchard, sy’n wreiddiol o’r Mwmbwls, ger Abertawe yn cystadlu yn y PR1 sgwl unigol dynion dros y penwythnos, sy’n gystadleuaeth i rwyfwyr sydd â diffyg rheolaeth dros gyhyrau’r torso.

Mae’r gystadleuaeth honno’n dechrau ddydd Gwener, 27 Awst, gyda’r ffeinal ddydd Sul, 29 Awst.

Newid byd

Pan oedd yn fyfyriwr ym Mangor, fe enillodd Gwobr Goffa Llew Rees, am ragori mewn chwaraeon, ac yn ystod ei drydedd flwyddyn, fe oedd yn cynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth Triathlon Ewrop.

Ond yn 2016, daeth tro ar fyd i Ben wedi iddo dderbyn anaf i’w asgwrn cefn mewn damwain seiclo, a golygodd hynny bod dim modd iddo barhau â’r triathlon.

“Ro’n i’n ddigon ffodus i fynd i Stoke Mandeville, y ganolfan anafiadau asgwrn cefn genedlaethol a man geni’r mudiad paralympaidd,” meddai.

“Yn yr ysbyty, maen nhw’n rhoi pwyslais enfawr ar y lles y gall chwaraeon ei wneud ar ôl anaf ac ro’n i’n ffodus iawn i gael rhoi cynnig ar amrywiaeth o chwaraeon tra ro’n i yno.

“I ddechrau, doeddwn i ddim yn hoffi’r peiriant rhwyfo gan fy mod i’n meddwl ei fod yn rhy anodd ac yn rhy ddiflas, ond soniodd ffrind a chyd-glaf wrthyf i fod y ffisiotherapyddion yn cadw cofnod o’r rhwyfwyr gorau.

“Dyna ni wedyn – ro’n i eisiau mynd yn gyflymach ac yn gyflymach – y dilyniant naturiol oedd cysylltu â British Rowing a gweld beth oedd y camau nesaf.”

‘Teimlo fel plentyn mewn siop da-da’

Yn 2019, penderfynodd Ben ganolbwyntio ar gyrraedd y Gemau Paralympaidd yn Tokyo.

Yn hwyrach ymlaen y flwyddyn honno, fe gafodd y 3ydd safle yng Nghwpan y Byd a’r 4ydd safle ym Mhencampwriaethau’r Byd, ac mae wedi gwireddu ei freuddwyd drwy ragbrofi i Tokyo eleni.

“Galla’ i ddim disgrifio pa mor hapus ydw i fy mod i allan yn Tokyo ar hyn o bryd! Rwy’n teimlo fel plentyn mewn siop da-da,” meddai Ben.

“Mae rhannu ffreutur gydag athletwyr rwyf wedi eu gwylio ar y teledu a’u hedmygu yn brofiad swreal, a rŵan gallaf eu galw’n gyd-rwyfwyr.

“Mae’n brofiad anhygoel ac rwy’n mwynhau pob cyfle.”

Ben yn ei wisg Paralympaidd. Llun gan Paralympics GB.

Mynd i Tokyo i ennill

Wrth drafod ei obeithion ar gyfer y Gemau eleni, mae Ben yn anelu i ennill y fedal aur.

“Mae pob athletwr yn dod i’r Gemau Paralympaidd i ennill, a fydden ni ddim yn athletwyr heb y meddylfryd cystadleuol hwn,” meddai.

“Nod realistig i fi yw lle ar y podiwm – 5ed safle, a dyna rwy’n anelu at ei gyflawni!

“Rwy’n credu mai’r peth mwyaf i rywun sydd yno am y tro cyntaf, yw sicrhau eich bod yn mwynhau pob cyfle oherwydd efallai mai dyma fydd y tro cyntaf neu’r tro olaf i chi fod yma.

“Felly rwy’n gwneud yn siŵr fy mod yn cymryd rhan o bob diwrnod i fwynhau fy hun.”