Mae Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, yn ffyddiog fod Gareth Bale yn barod i arwain yn y gemau sydd i ddod, ar ôl creu argraff wrth ddychwelyd i dîm Real Madrid.

Roedd sôn y gallai Bale, 32, fod wedi ymddeol o bêl-droed ryngwladol ar ddiwedd yr Ewros dros yr haf, ond mynnodd ar ôl y gystadleuaeth na fyddai fyth yn troi ei gefn ar ei wlad.

Treuliodd e’r tymor diwethaf ar fenthyg yn Spurs, ond mae e wedi dychwelyd i Madrid ar gyfer blwyddyn ola’i gytundeb.

Mae e wedi dechrau’r ddwy gêm ddiwethaf o dan y rheolwr newydd Carlo Ancelotti, gan sgorio’i gôl gyntaf yn LaLiga ers 2019 yn y gêm gyfartal 3-3 yn erbyn Levante.

Bydd Cymru’n herio’r Ffindir mewn gêm gyfeillgar ar Fedi 1, cyn y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd yn erbyn Belarws (Medi 5) ac Estonia (Medi 9).

“Dydy Gareth ddim wedi newid pwy yw e,” meddai Rob Page.

“Byd chwaraewyr yn dweud wrthoch chi fod rheolwr gwahanol yn meddwl yn wahanol am sut maen nhw eisiau chwarae ac a ydyn nhw’n cymryd atoch chi fel person neu fel chwaraewr.

“Mae e fwy na thebyg wedi darganfod hynny yn ei brofiadau gyda chlybiau eraill.

“Mae ganddo fe reolwr nawr sydd wedi bod yn bles gyda’r hyn mae e wedi’i wneud cyn y tymor ac wedi ei wylio fe drwy gydol yr Ewros.

“Dyna’r cyfan mae e’n gallu dylanwadu arno, rhoi o’i orau wrth ymarfer a dangos pwy yw e ac fe fydd e’n dechrau gemau.”

Ymgyrch Cymru

Dechreuodd ymgyrch Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd 2022 gyda cholled o 3-1 oddi cartref i Wlad Belg cyn curo’r Weriniaeth Tsiec o 1-0.

Bydd y gêm yn erbyn Belarws yn cael ei chynnal yn Rwsia gan nad oes modd i dimau o wledydd Prydain na’r Undeb Ewropeaidd deithio ar awyren i Felarws oherwydd sancsiynau yn erbyn y llywodraeth.

Ond mae Page yn dweud bod Bale yn awyddus i chwarae yng Nghwpan y Byd.

“Fel chwaraewr, rheolwr a hyfforddwr, rydych chi eisiau bod yn rhan o Gwpan y Byd,” meddai.

“Bydd y bois hynny yn y llyfrau hanes os ydyn nhw’n cymhwyso.”

Rambo: Anaf arall?

Fodd bynnag, mae Aaron Ramsey yn bryder i Gymru – yn dilyn cyhoeddiad carfan Cymru, dywedodd clwb y chwaraewr canol cae 30 oed, Juventus, fod ganddo broblem gyda chyhyr yn ei glun yn dilyn eu gêm 2-2 gydag Udinese ddydd Sul.

Doedd Bale ac Aaron Ramsey ddim wedi chwarae gyda’i gilydd ers i Gymru guro Hwngari i gyrraedd yr Ewros fis Tachwedd 2019, ond fe wnaethon nhw gyfuno’n effeithiol yn yr Ewros wrth i Ramsey sgorio oddi ar bàs gan Bale yn erbyn Twrci.

Yn dychwelyd i’r garfan ar ôl anaf mae’r amddiffynnwr James Lawrence, ac mae’r chwaraewr canol cael George Thomas a’r ymosodwr Brennan Johnson hefyd wedi’u cynnwys.

Ond does dim lle i Connor Roberts (anaf) na Ben Cabango (salwch).

Carfan Cymru: W Hennessey (Burnley), D Ward (Caerlŷr), A Davies (Stoke), C Gunter (Charlton), B Davies (Spurs), E Ampadu (Chelsea), C Mepham (Bournemouth), J Rodon (Spurs), N Williams (Lerpwl), T Lockyer (Luton), J Lawrence (St Pauli), R Norrington-Davies (Sheff Utd), J Allen (Stoke), J Morrell (Portsmouth), M Smith (Hull, ar fenthyg o Man City), D Levitt (Dundee Utd, ar fenthyg o Man U), A Ramsey (Juventus), J Williams (Swindon), H Wilson (Fulham), D Brooks (Bournemouth), G Thomas (QPR), R Colwill (Caerdydd), B Johnson (Nottingham Forest), G Bale (Real Madrid), D James (Man U), K Moore (Caerdydd), T Roberts (Leeds).

Carfan dan 21 Cymru

Yn y cyfamser, mae Paul Bodin wedi enwi ei garfan ar gyfer gêm ragbrofol y tîm dan 21 oddi cartref yn erbyn Bwlgaria (Medi 7).

Cawson nhw gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Moldofa yn eu gêm gyntaf.

Mae Brandon Cooper a Christian Norton yn dychwelyd ar ôl anafiadau, tra bod Owen Beck yn ôl yn y garfan.

Does dim lle i Siôn Spence wrth iddo gael ei wahardd am un gêm am gerdyn coch yn y gêm ddiwethaf.

Y garfan dan 21: George Ratcliffe (Caerdydd), Nathan Shepperd (Brentford), Daniel Barden (Livingston, ar fenthyg o Norwich), Billy Sass-Davies (Crewe), Morgan Boyes (Lerpwl), Brandon Cooper (Abertawe), Eddy Jones (Stoke), Ryan Astley (Everton), Owen Beck (Lerpwl), Fin Stevens (Brentford), Niall Huggins (Sunderland), Terry Taylor (Burton Albion), Sam Bowen (Caerdydd), Sam Pearson (Bristol City), Joe Adams (Brentford), Luke Jephcott (Plymouth Argyle), Elliot Thorpe (dim clwb), Rhys Hughes (Everton), Jack Vale (Blackburn), Christian Norton (Stoke), Ryan Stirk (Birmingham).