Roedd symud y Gemau Paralympaidd i 2021 yn “fodd i fyw” i bara-athletwyr yn ystod y pandemig Covid-19, yn ôl y Cymro sy’n cludo baner Prydain yn y seremoni agoriadol yn Tokyo heddiw (dydd Mawrth, Awst 24).

Fe fu iechyd meddwl yn bwysig erioed i’r saethyddwr John Stubbs, oedd wedi ceisio lladd ei hun ar ôl colli ei goes 32 o flynyddoedd yn ôl.

Mae’r Gemau Paralympaidd yn cael eu cynnal 16 mis yn hwyrach na’r disgwyl, ond mae Covid-19 yn dal ar ei anterth yn Japan.

Ond yn ôl Stubbs, sy’n gyn-bencampwr Paralympaidd, byddai canslo’r digwyddiad byd-eang wedi achosi niwed seicolegol i’r athletwyr.

“Rydych chi’n siarad â rhywun sydd wir wedi dioddef yn wael o ran materion seicolegol a iechyd meddwl,” meddai.

“Does gen i ddim embaras wrth ddweud fy mod i wedi dioddef o ran materion iechyd meddwl ar ôl y ddamwain ges i.

“Dydy Covid ddim wedi gwneud ffafr â ni, os liciwch chi.

“Ond o ran gohirio’r Gemau a chyhoeddiad wedyn y bydden nhw’n cael eu cynnal 12 mis yn ddiweddarach yn 2021, fe wnaeth hynny roi ystyr i fywyd pawb ag anabledd oedd yn dyheu am fod yn y tîm.

“A bod yn onest efo chi, pwy a ŵyr lle fyddai llawer ohonom (heb y Gemau)?”

Cefndir

Yn 56 oed, John Stubbs yw’r cystadleuydd hynaf yn nhîm Prydain yn y Gemau eleni.

Collodd ei goes dde yn 24 oed yn 1989 ar ôl cael ei daro oddi ar ei feic modur wrth fynd adref o’r gwaith fel peiriannydd.

Ar ôl cael ei daro gan gar arall, bu’n rhaid iddo gael trallwysiad gwaed – 68 peint – ac roedd disgwyl ddwywaith iddo golli ei fywyd tra ei fod e yn yr ysbyty.

Cafodd e driniaeth ar ymyl y ffordd gan feddyg oedd yn digwydd mynd heibio ar y pryd, cyn i ambiwlans stopio gan ei fod yn teithio’n ôl i orsaf ar ôl derbyn galwad ffug am ddigwyddiad honedig arall yn yr ardal.

“Mi ddaru nhw fy nghrafu i oddi ar y llawr a’m cludo i’r ysbyty,” meddai.

“Roedd hi wedyn yn wir na fyddwn i’n mynd i unman hyd nes fy mod i wedi sicrhau fy ngwraig y byddwn i’n iawn, ac y byddwn i adre’r diwrnod wedyn. Wel, doedd hynny ddim yn wir.

“Bedwar mis a hanner yn ddiweddarach, ro’n i’n dod allan o’r ysbyty wedi colli fy nghoes.”

Ceisio lladd ei hun cyn darganfod saethyddiaeth

Fe wnaeth Stubbs, a gafodd ei eni ym Manceinion, geisio boddi ei hun mewn llyn cyn darganfod ei gariad at saethyddiaeth.

Mae e wedi ennill pedwar teitl byd, yn ogystal â medal aur yn y gystadleuaeth gyfansawdd unigol yn Beijing yn 2008 a medal aur yn y gystadleuaeth gyfansawdd i dimau yn Rio de Janeiro yn 2016.

Yn gynharach eleni, bu farw ei dad o ganser.

“Dyna’r peth gwaethaf erioed, wyddoch chi, ond dw i mor falch i mi gyrraedd yno ac fy mod i yno gyda gweddill fy nheulu i ffarwelio ag o.”