Mae Robbie Willmott, asgellwr tîm pêl-droed Casnewydd, yn rhybuddio na fydd Southampton yn cael noson hawdd yn Rodney Parade heno (nos Fawrth, Awst 24), wrth iddyn nhw deithio i Gymru ar gyfer Cwpan Carabao.
Mae gan yr Alltudion record dda yn erbyn timau yn yr adran uchaf, gyda Leeds, Caerlŷr a Watford i gyd wedi colli yng Nghasnewydd dros y tymhorau diwethaf.
Bu’n rhaid i Spurs unioni’r sgôr yng Nghwpan FA Lloegr yn 2018, tra bod angen ciciau o’r smotyn ar Newcastle a Brighton yng ngemau’r gwpan y tymor diwethaf.
“Mae’n lle arbennig i gael chwarae mewn gemau fel hon,” meddai Willmott, sydd wedi dychwelyd i’r Alltudion ar ôl cyfnod ar fenthyg yng Nghaerwysg ddiwedd y tymor diwethaf.
“Mae’r sŵn yn fyddarol weithiau ac mae’r dorf yn ei wneud e’n gadarnle i ni.
“Yn ddiweddar, mae timau wedi dod yma heb ei ffansïo hi.
“Pan fydd pobol yn gweld bod ganddyn nhw Gasnewydd oddi cartref, maen nhw’n gwybod eu bod nhw am gael noson anodd, yn enwedig y timau mawr.
“Dw i ddim yn siŵr beth yw e, ond rydyn ni fel pe baen ni’n ei throi hi ymlaen yn erbyn timau’r Uwch Gynghrair.
“Rhaid i chi brynu i mewn i’r hyn yw’r clwb ac mae’r bois wedi gwneud hynny.”
Y gwrthwynebwyr
Southampton yw’r nawfed tîm o’r Uwch Gynghrair i ddod i Gasnewydd ers 2018.
Ac yn ôl Ralph Hasenhuttl, y rheolwr, mae ei dîm yn barod am gêm anodd wrth iddo fe addo gwneud newidiadau ar ôl y gêm gynghrair yn erbyn Manchester United dros y penwythnos.
“Os ydyn ni’n chwarae yn erbyn chwaraewyr sydd heb gael llawer o funudau, gallen ni eu dal nhw’n oer,” meddai Willmott wedyn.
“Ond rydyn ni’n gwybod y bydd gan bwy bynnag maen nhw’n eu dewis lawer o brofiad yn yr Uwch Gynghrair.”
Wayne Hatswell, yr is-reolwr, fydd yn arwain y tîm yn absenoldeb Michael Flynn, sydd wedi profi’n bositif am Covid-19.
Y gêm ail rownd hon yw’r tro cyntaf i dorf sylweddol gael mynd i Rodney Parade ers y pandemig.