Mae Ben Cabango, y Cymro Cymraeg yng nghanol amddiffyn tîm pêl-droed Abertawe, yn parhau i hunanynysu wrth i’w dîm groesawu Plymouth i Stadiwm Swansea.com heno (nos Fawrth, Awst 24) yn ail rownd Cwpan Carabao.

Mae e wedi bod yn hunanynysu ar ôl profi’n bositif am Covid-19, ynghyd â Flynn Downes, ac mae disgwyl i’r ddau fod allan am o leiaf ddwy gêm arall.

Ond mae disgwyl i Kyle Naughton a Ryan Bennett fod ar gael ar gyfer y gêm wrth iddyn nhw ddychwelyd ar ôl hunanynysu hefyd.

O safbwynt yr ymwelwyr, mae James Wilson wedi’i wahardd am dair gêm am “ddigwyddiad oedd heb ei weld” yn ystod y gêm yn erbyn Caergrawnt – hon yw’r ail gêm allan iddo fe.

Mae Niall Ennis allan oherwydd anaf i linyn y gâr gafodd e wrth gynhesu ar gyfer y gêm yn erby Rotherham.

Mae James Bolton allan hefyd wrth iddo fe barhau i wella o anaf i’w ffêr.