Gallai Kieffer Moore ddechrau i dîm pêl-droed Caerdydd heno (nos Fawrth, Awst 24), wrth iddyn nhw groesawu Brighton, un o dimau’r Uwch Gynghrair, i Stadiwm Dinas Caerdydd yn ail rownd Cwpan Carabao.

Dechreuodd y Cymro ei gêm gyntaf y tymor hwn yn erbyn Millwall yn y Bencampwriaeth dros y penwythnos, a hynny ar ôl iddo fe wella o Covid-19.

Mae ymosodwr arall, Isaac Vassell, yn agos at wella o anaf i’w ben-glin.

Ond mae Lee Tomlin, Isaak Davies, Mark McGuinness a Ciaron Brown allan o hyd.

Y gwrthwynebwyr

Mae Brighton heb Neal Maupay ar ôl i’r ymosodwr anafu ei ysgwydd yn y gêm ddiwethaf yn erbyn Watford.

Mae’r amddiffynnwr Joel Veltman yn parhau i hunanynysu.

Mae’r ymosodwr Danny Welbeck a’r cefnwr Tariq Lamptey wedi anafu.

Mae disgwyl i Graham Potter, rheolwr Brighton a chyn-reolwr Abertawe, wneud nifer o newidiadau ar ô i’w dîm ennill dwy gêm o’r bron yn yr Uwch Gynghrair.