Mae Wrecsam wedi denu James Jones, chwaraewr canol cae Lincoln, am ffi sydd heb ei ddatgelu.

Ymunodd Jones â Lincoln fis Mehefin y llynedd, a hynny o Crewe Alexandra, lle cododd e drwy’r timau ieuenctid.

Sgoriodd y gŵr 25 oed dair gôl mewn 45 o gemau y tymor diwethaf wrth i Lincoln gyrraedd rownd derfynol gemau ail gyfle’r Adran Gyntaf, cyn colli yn erbyn Blackpool yn Wembley.

“Roedd camu i lawr i’r Gynghrair Genedlaethol yn rhywbeth roedd yn rhaid i mi ei ystyried,” meddai.

“Ond oherwydd uchelgais y clwb, a’r prosiect a chynlluniau’r rheolwr a’r cadeiryddion wrth symud ymlaen, mae’n gyfle cyffrous i fod yn rhan ohono, gan geisio mynd i mewn i’r Gynghrair Bêl-droed a thu hwnt.”

Jones yw’r wythfed chwaraewr i ymuno â Wrecsam yr haf hwn.

“Mae’n chwaraewr da, ac mewn oedran da hefyd ac rwy’n teimlo y bydd yn ychwanegiad da i’n grŵp ar gyfer y tymor nesaf a thu hwnt,” meddai’r rheolwr Phil Parkinson.