Sgoriodd Morgan Whittaker hatric cyntaf tîm pêl-droed Abertawe ers degawd wrth i’r Elyrch guro Plymouth o 4-1 yn Stadiwm Swansea.com yng Nghwpan Carabao neithiwr (nos Fawrth, Awst 24).

Y chwaraewr diwethaf i gyflawni’r nod yw Scott Sinclair, a hynny yn 2011 wrth i’r Elyrch sicrhau eu lle yn Uwch Gynghrair Lloegr wrth guro Reading o 4-2 yn Wembley.

Aeth yr Elyrch ar y blaen yn gynnar drwy’r Cymro Dan Williams, wrth iddo fe anelu ergyd o’r tu allan i’r cwrt cosbi a darodd y golwr Callum Burton ar ôl 29 munud, cyn i Rhys Shirley unioni’r sgôr i’r ymwelwyr gyda foli oddi ar groesiad gan Adam Randell.

Ond daeth tair gôl Whittaker, sydd wedi’i gysylltu â chyfnod ar fenthyg i ffwrdd o Abertawe, o fewn 12 munud yn hwyr yn y gêm wrth iddo geisio profi pwynt i’r rheolwr Russell Martin, oedd wedi canmol ei ymosodwr yn dilyn ei berfformiad.

Tarodd e ergyd o bell ar ôl 79 munud, cyn rhwydo’r eilwaith bedair munud yn ddiweddarach gyda phàs gelfydd gan Jamal Lowe yn ei ryddhau.

Daeth ei drydedd gôl oddi ar ergyd isel.

“Ro’n i’n meddwl ei fod e’n wych,” meddai Russell Martin.

“Mae ganddo fe lawer i weithio arno, ond mae ganddo fe lawer i weithio gyda fe hefyd.

“Dw i’n falch gyda’r canlyniad a chymaint welson ni.

“Roedden ni wedi dominyddu’n fawr â’r bêl, ro’n i’n meddwl ein bod ni’n amyneddgar iawn ac fe wnaethon ni basio gyda llawer o bwrpas.”