Mae Graham Potter, cyn-reolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi canmol ei dîm presennol Brighton ar ôl iddyn nhw guro Caerdydd o 2-0 oddi cartref yng Nghwpan Carabao neithiwr (nos Fawrth, Awst 24).

Sgoriodd Jakub Moder ac Andi Zeqiri eu goliau cyntaf i’r clwb wrth i’r tîm ifanc a di-brofiad sicrhau eu lle yn y drydedd rownd.

21 oedd oed cyfartalog y tîm, ac roedd pob chwaraewr allanol yn 23 neu’n iau.

Fe wnaeth Brighton hollti amddiffyn yr Adar Gleision ar ôl wyth munud, wrth i bàs Enoch Mwepu ddarganfod Moder, a daniodd y bêl o dan gorff y golwr Alex Smithies.

Tarodd Perry Ng ergyd wedyn dros ben y rhwyd cyn i Brighton gael cyfle i ddyblu eu mantais wrth i Haydon Roberts ddarganfod Zeqir, a hwnnw’n ergydio heibio’r postyn.

Daeth cyfle hefyd i Taylor Richards a aeth dros y trawst cyn i Gaerdydd colli eu capten Sean Morrison o ganlyniad i anaf wrth iddo ymestyn am y bêl.

Dyblodd Zeqiri fantais Brighton ar ôl deg munud o’r ail hanner wrth i Richards a Moises Caicedo gyfuno yng nghanol cae, wrth i Caicedo ryddhau Zeqiri.

Daeth Caerdydd yn agos wedyn wrth i James Collins gyrraedd croesiad Josh Murphy cyn penio’r bêl i’r ddaear a tharo’r trawst.

Bu’n rhaid i Smithies arbed ergyd gan Marc Leonard cyn i Jason Steele wneud arbediadau oddi ar ergydion gan Aden Flint a Josh Murphy.

Canmol ieuenctid Brighton

“Dydych chi ddim wir yn gwybod yn sicr sut mae’n mynd i fynd yn erbyn tîm o’r Bencampwriaeth,” meddai Graham Potter ar ôl gwneud 11 newid o’r fuddugoliaeth dros Watford yn Uwch Gynghrair Lloegr.

“Dydych chi ddim mor gorfforol â hynny yn y tîm dan 23, yn sicr.

“Mae’n brawf o fath gwahanol, ond y peth pwysig gyda phob un ohonyn nhw yw fod y cymeriad yn gryf iawn.

“Maen nhw’n agored eu meddyliau ac eisiau ceisio gwneud eu gorau.

“Ein gwaith ni yw datblygu’r llwybrau cywir i mewn i’r Uwch Gynghrair oherwydd fod y lefel mor uchel.

“Mae’r gwaith mae’r Academi’n ei wneud yn datblygu hynny yn wych.”