Mae Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, yn dweud bod y penderfyniad i gynnal y gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd yn erbyn Belarws yn ninas Kazan yn Rwsia yn un “gwallgof”.
Bu’n rhaid i UEFA symud y gêm ar Fedi 5 o ganlyniad i sancsiynau yn erbyn Llywodraeth Belarws sy’n atal timau o wledydd Prydain a’r Undeb Ewropeaidd rhag teithio i’r wlad mewn awyren.
Ond roedd yr awdurdodau yng Nghymru yn grac pan gafodd y gêm ei symud i bumed dinas fwyaf Rwsia oherwydd yr anawsterau ychwanegol mae’r penderfyniad wedi’u hachosi iddyn nhw.
Mae angen fisa ar bob aelod o’r garfan a’r tîm hyfforddi, ac fe fu’n rhaid i bob chwaraewr gael prawf olion bysedd.
Yn ôl Rob Page, fe wnaethon nhw apelio yn erbyn y penderfyniad i gynnal y gêm yn Rwsia, ond cafodd yr apêl ei gwrthod ar unwaith.
“Yn y lle cyntaf, rydyn ni’n cydymdeimlo â’r Belarwsiaid yn llwyr,” meddai Rob Page, sy’n parhau i reoli’r tîm yn absenoldeb Ryan Giggs.
“Ond mae UEFA wedi penderfynu ar Kazan ac mae ei threfnu hi o safbwynt ariannol a logisteg yn hunllef.
“Fydd y chwaraewyr ond yn ymwybodol o hynny oherwydd y profion biofecanyddol sy’n rhaid i ni eu gwneud.
“Rhaid i ni eu trefnu nhw i fynd i wahanol rannau o’r Deyrnas Unedig i gael eu holion bysedd wedi’u gwneud a chael profion.
“Bu’n rhaid i ni ddewis carfan fwy o faint oherwydd y fisas, mae’n rhaid eu cyflwyno nhw dair wythnos cyn i ni fynd – sydd unwaith eto’n wallgof.
“Gallai UEFA fod wedi dewis unrhyw leoliad niwtral ond maen nhw wedi dewis Kazan.”
Ergyd wedi’r Ewros
Daw’r sefyllfa ddiweddaraf fisoedd yn unig ar ôl i Gymru orfod teithio’n bell yn ystod yr Ewros.
Cafodd eu gemau eu cynnal yn Baku, Rhufain ac Amsterdam.
“Edrychwch ar fformat yr Ewros a’r teithio ynghlwm yn y fan honno,” meddai Rob Page.
“Pe bawn i wedi dweud hynny yn ystod yr Ewros, fe fyddai wedi swnio fel cwyno sur, felly doeddwn i ddim eisiau ei ddweud e bryd hynny.
“Ond o edrych yn ôl, does dim cyd-ddigwyddiad fod timau oedd wedi mynd ymhellach wedi teithio llai.
“Fe wnaethon ni ei oddef a’i wneud e ac fe wnaethon ni ein gorau ond o edrych yn ôl, wrth gwrs y cafodd e effaith.”