Mae Caerdydd a Peterborough United wedi derbyn dirwyo o £5,000 yr un gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr.
Daw yn dilyn helynt rhwng chwaraewyr y ddau glwb mewn gêm gyfartal ar 17 Awst.
Fe wnaeth y ddau glwb gyfaddef eu bod wedi methu sicrhau bod eu chwaraewyr yn ymddwyn mewn modd derbyniol yn y 43fed munud.
Budur
Tacl fudur ar chwaraewr Caerdydd, Marlon Pack, wnaeth sbarduno’r dyrnu a chafodd Pack a’i gyd-chwaraewr Aden Flint gardiau melyn gan y dyfarnwr Thomas Bramall.
Sgoriodd Flint ddwy gôl hwyr i achub pwynt i Gaerdydd, oedd ar ei hôl hi o 2-0.