Mae Harry Kane wedi cyhoeddi ei fod yn “aros gyda Tottenham yr haf hwn”.

Daw hyn ar ôl i’r ymosodwr dderbyn na fydd yn ymuno â Manchester City er iddyn nhw geisio sicrhau ei lofnod drwy gydol yr haf.

Roedd capten Lloegr yn awyddus iawn i arwyddo gyda phencampwyr yr Uwch Gynghrair ac roedd Pep Guardiola, rheolwr Manchester City wedi dweud yn gyhoeddus fod gan y clwb ddiddordeb ynddo.

Fodd bynnag, safbwynt Tottenham Hotspur drwy gydol yr holl amser oedd nad oedd y gŵr 28 oed ar werth a methodd Manchester City wneud cynnig wnaeth eu perswadio i newid eu meddwl.

Ac yn awr, gyda llai nag wythnos o ffenestr drosglwyddo’r haf yn weddill, mae Kane wedi derbyn na fydd yn gadael.

“Roedd hi’n anhygoel gweld y derbyniad gan gefnogwyr Spurs ddydd Sul ac i ddarllen rhai o’r negeseuon o gefnogaeth dw i wedi eu cael yn ystod yr wythnosau diwethaf,” meddai ar Twitter.

“Byddaf yn aros yn Tottenham yr haf hwn a byddaf yn canolbwyntio 100% ar helpu’r tîm i lwyddo.”

Mae Kane hanner ffordd drwy gytundeb chwe blynedd a lofnododd yn 2018.

Nid yw’r cytundeb yn cynnwys cymal i’w ryddhau am bris penodol felly Tottenham Hotspur oedd â’r pŵer yn y sefyllfa.

Gwnaeth Manchester City gynnig agoriadol a oedd yn dod i gyfanswm o £100miliwn tra bod Kane ar ddyletswydd yn Lloegr ym Mhencampwriaeth Ewrop, ond doedd Tottenham Hotspur ddim yn fodlon gwerthu am y pris hwnnw.

“Newyddion gwych”

Mae rheolwr Tottenham Hotspur, Nuno Espirito Santo, wrth ei fodd bod Kane yn aros gyda’r clwb.

“Newyddion gwych,” meddai.

“Ers i Harry ymuno â ni mae wedi bod yn gweithio’n galed felly dyma beth rydyn ni’n ei werthfawrogi.

“Mae ei agwedd wrth hyfforddi wedi bod yn rhagorol.

“Mae’r sefyllfa wedi dod i ben, mae Harry yn mynd i fod gyda ni.”