Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi rhoi cartref i bymtheg o bobol o Affganistan fel rhan o’r cynllun adsefydlu ffoaduriaid.
Mae’r tri theulu wedi cael lloches ac yn cael eu cefnogi i ailadeiladu eu bywydau’n ddiogel.
Cyngor Sir Caerfyrddin oedd un o’r rhai cyntaf i roi cartrefi i ffoaduriaid o Affganistan, a dweud eu bod nhw am weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu cymorth parhaus os oes angen.
Mae swyddogion y Cyngor yn gweithio gyda Thîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST), sef y sefydliad sydd wedi bod yn cydweithio â nhw dros y blynyddoedd diwethaf i ddarparu cymorth i ffoaduriaid wnaeth ymgartrefu yn Sir Gaerfyrddin o Syria.
Mae’r Cyngor yn gweithio gydag EYST a rhwydweithiau amlddiwylliannnol lleol i sicrhau bod gan y teuluoedd bopeth sydd ei angen arnyn nhw.
Does dim angen rhoddion megis celfi, dillad, bwyd na theganau ar hyn o bryd, meddai’r Cyngor, ond mae trefniadau ar y gweill ar gyfer pobol sydd am gyfrannu at gronfa a fydd yn cefnogi’r rhaglen adsefydlu yn y dyfodol.
“Asedau enfawr i’n cymunedau”
“Mae’n hynod o drist gweld beth sy’n digwydd yn Affganistan, ac fel Cyngor rydym wedi ymrwymo i wneud ein gorau i helpu,” meddai’r Cynghorydd Linda Evans, yr Aelod o’r Cabinet dros Dai.
“Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig am sawl wythnos ac rydym eisoes wedi dod o hyd i gartrefi diogel ar gyfer tri theulu a oedd ymhlith y cyntaf i gael eu hailgartrefu.
“Rydym yn gwneud ein gorau i gefnogi’r teuluoedd hyn gyda chymorth gan EYST a byddwn yn rhoi cymorth parhaus i sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt i adeiladu bywyd newydd yma yn Sir Gaerfyrddin.
“Rwy’n sicr y bydd y ffoaduriaid hyn, yn debyg i’r ffoaduriaid o Syria, yn asedau enfawr i’n cymunedau gydag amser a’r gefnogaeth gywir.
“Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth rydym wedi’i chael gan landlordiaid lleol yr ydym wedi gweithio gyda nhw fel y gall Sir Gaerfyrddin chwarae ei rhan yn y sefyllfa drasig hon.”