Mae Nick Thomas-Symonds, llefarydd materion cartref y Blaid Lafur yn San Steffan, yn dweud bod rhaid i’r Deyrnas Unedig fod yn “esiampl ar lwyfan y byd” wrth dderbyn ffoaduriaid o Affganistan.

Dywed Aelod Seneddol Torfaen fod “gennym ni gyfrifoldeb penodol tuag at bobol Affganistan”, ac y dylid gweithio gyda phartneriaid i helpu dinasyddion yn Affganistan fydd yn ffoi rhag y Taliban.

Mae Nick Thomas-Symonds yn cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o “esgeulustod difrifol” am beidio â pharatoi at dynnu milwyr o Affganistan ynghynt hefyd.

“Dangos esiampl”

“Dw i’n meddwl, yn amlwg mae’n rhaid i ni gael dinasyddion Prydeinig allan, rheiny sydd wedi’n helpu ni,” meddai Nick Thomas-Symonds wrth Radio 4.

“Ond hefyd menywod a merched sy’n rhan o fywyd cyhoeddus, a gafodd eu safle mewn bywyd cyhoeddus drwy warant y gorllewin, os hoffech chi.

“Yna, gweithio’n rhyngwladol gyda phartneriaid, ar gyfer y dinasyddion yn Affganistan a fydd yn ffoi rhag y Taliban, fydd eisiau dianc.

“Rydyn ni angen dangos esiampl ar lwyfan y byd ac arwain ar hyn gyda’n rhaglen ailsefydlu uchelgeisiol ein hunain.”

Wrth siarad â Sky News, dywedodd fod y “Llywodraeth heb baratoi at y sefyllfa hon er eu bod nhw’n gwybod fod Joe Biden wedi gwneud yr addewid honno yn ei ymgyrch a’i fod am adael Affganistan”.

“Ac mae e’n esgeulustod difrifol, yn syml, gan ein llywodraeth ni eu bod nhw wedi ein gadael ni yn y sefyllfa hon,” meddai wedyn.

Mae’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i “symud nef a daear i berswadio’r Unol Daleithiau i aros” yn Affganistan wedi 31 Awst, sef y dyddiad sydd wedi’i gytuno gan Joe Biden.