Fe wnaeth yr ymdrechion i gludo Americanwyr, Affganiaid sydd mewn perygl ac eraill o faes awyr Kabul gynyddu dros y penwythnos, yn ôl Joe Biden.
Er hynny, mae yna berygl o hyd y gallai’r Taliban amharu ar yr ymdrechion, meddai arlywydd yr Unol Daleithiau.
Wythnos ar ôl i’r Taliban gipio grym yn Affganistan, dywed Joe Biden fod trafodaethau ar y gweill ymysg swyddogion y fyddin i ymestyn y cyfnod y gall awyrennau hedfan o Kabul.
Roedd disgwyl i’r awyrennau olaf hedfan ar Awst 31.
“Ein gobaith yw na fydd rhaid ymestyn, ond mae yna drafod,” meddai, gan awgrymu’r posibilrwydd y gallen nhw negodi gyda’r Taliban.
Ers Awst 14, ddiwrnod cyn i’r Taliban gipio Kabul, mae 28,000 o bobol wedi gadael ar awyrennau’r Unol Daleithiau, meddai.
Dywed fod hynny’n cynnwys yr 11,000 a adawodd Kabul dros gyfnod o 36 awr dros y penwythnos diwethaf.
Byddin yn Unol Daleithiau sy’n rheoli’r maes awyr, ac mae degau o filoedd o bobol yn dal i aros i gael hedfan o Kabul.
Gwella mynediad
Yn ôl Joe Biden, mae lluoedd yr Unol Daleithiau wedi llwyddo i wella mynediad i’r maes awyr i Americanwyr ac eraill.
Awgryma fod perimedr y maes awyr wedi’i ehangu, gan ledu’r “parth diogel”.
“Yr hyn dw i ddim am ei wneud yw siarad am y newidiadau tactegol rydyn ni’n eu gwneud er mwyn sicrhau cymaint o ddiogelwch â phosib,” meddai.
“Rydyn ni wedi… sut alla i ddweud hyn… cynyddu’r mynediad rhesymegol i’r maes awyr, lle mae mwy o bobol yn gallu cyrraedd yno’n saffach.
“Mae hi’n dal yn ymdrech beryglus, ond dw i ddim eisiau mynd i ormod o fanylion ynghylch sut rydyn ni’n gwneud hynny.
“Rydyn ni wedi trafod lot efo’r Taliban.
“Maen nhw wedi cydweithio er mwyn ehangu rhywfaint o’r perimedr.
“Bydd unrhyw Americanwr sydd eisiau dod adre’, yn dod adre’.”
‘Perygl’
Mae ffoaduriaid o Affganistan yn mynd trwy wiriadau mewn gwledydd eraill cyn cael mynediad i’r Unol Daleithiau, meddai Joe Biden wrth ymateb i feirniadaeth gan y Gweriniaethwyr.
Mae’r arlywydd a’i brif ymgynghorwyr wedi mynegi pryderon y gallai grwpiau eithafol yn Affganistian geisio ecsbloetio’r dryswch yn Kabul.
“Mae’r perygl yn un gwirioneddol, mae’n ddwys, mae’n gyson ac yn rhywbeth rydyn ni’n canolbwyntio arno gyda phob arf yn ein meddiant,” meddai Jake Sullivan, ymgynghorydd diogelwch cenedlaethol Joe Biden.
Dros y 24 awr ddiwethaf, fe wnaeth 3,900 o bobol hedfan o Kabul ar awyrennau byddin yr Unol Daleithiau, cynnydd o’r 1,600 adawodd y diwrnod blaenorol.
Er hynny, maen nhw’n dweud ei bod hi’n bosib i 5,000 i 9,000 adael gyda’r fyddin bob dydd.
Dydy gweinyddiaeth Joe Biden heb roi amcangyfrif pendant ynghylch faint o Americanwyr sy’n ceisio gadael Affganistan, ond mae rhai wedi amcangyfrif fod y cyfanswm rhwng 10,000 a 15,000.