Mae Llywodraeth Seland Newydd wedi ymestyn cyfyngiadau Covid-19 y wlad tan o leiaf ddydd Gwener (Awst 27) yn dilyn cynnydd mewn achosion.

Mae’r awdurdodau wedi cyhoeddi 35 o achosion newydd o amrywiolyn Delta, y nifer fwyaf o achosion dyddiol ers mis Ebrill y llynedd, a 107 o achosion i gyd.

Ond maen nhw’n dweud bod cysylltiad rhwng y rhan fwyaf o’r achosion, sy’n golygu bod gobaith o gadw’r sefyllfa dan reolaeth.

Mae oddeutu 3% o boblogaeth y wlad wedi cael profion Covid-19 dros y chwe niwrnod diwethaf.

Bydd y cyfyngiadau’n aros yn Auckland tan o leiaf ddiwedd y mis, yn ôl y prif weinidog Jacinda Ardern.

Dim ond tua 20% o boblogaeth Seland Newydd sydd wedi’u brechu hyd yn hyn, ac mae’r cyfyngiadau’n gofyn bod pobol yn aros yn eu cartrefi ac mai i brynu nwyddau hanfodol neu i wneud ymarfer corff yn unig y gallan nhw fynd allan.

Bydd Senedd Seland Newydd hefyd yn dod i ben am wythnos, ond mae hynny wedi cael ei feirniadu gan y gwrthbleidiau fel cynllun “annealladwy”.

Awstralia

Yn Awstralia, yn y cyfamser, mae’r prif weinidog Scott Morrison yn dweud nad cyfnodau clo yw’r ateb i ddatrys y sefyllfa ac mai arafu ac nid dileu’r feirws maen nhw’n ei wneud.

Mae’n dweud nad yw cyfnodau clo “yn gynaladwy”, a bod rhaid agor ffiniau taleithiau ar ôl i 80% o’r boblogaeth dros 16 oed gael eu brechu.

Daw ei sylwadau yn dilyn cynnydd sylweddol mewn achosion yn Sydney, lle mae dros 800 o achosion newydd wedi’u cofnodi, sydd bron â chyrraedd lefel newydd.

Fe fu 71 o achosion newydd ym Melbourne hefyd, ac 16 yn y brifddinas Canberra.

Mae cyfyngiadau yn eu lle ym mhob un o’r dinasoedd hynny.

Ond mae gobaith yng Ngorllewin Awstralia lle na fu ymlediad cymunedol ers tro, ac mae’r arweinydd Mark McGowan yn ystyried peidio agor ffiniau’r dalaith eto ar ôl i 80% o bobol dros 16 oed gael eu brechu rhag i achosion gynyddu yno eto.

Mae oddeutu 24% o Awstraliaid wedi’u brechu’n llawn erbyn hyn.