Bydd dau ddyn a merch yn ei harddegau yn mynd gerbron Llys y Goron Caerdydd heddiw (dydd Llun, Awst 23) ar gyhuddiad o lofruddio.
Mae Jason Edwards, Lee William Strickland, a merch nad oes modd ei henwi oherwydd ei hoed wedi’u cyhuddo o lofruddio dyn 54 oed ym Mharc Biwt yng Nghaerdydd ar Orffennaf 20.
Bu farw Dr Gary Jenkins yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd 16 diwrnod wedi’r ymosodiad yn y brifddinas.
Roedd Dr Jenkins, a oedd yn byw ym Mae Caerdydd, wedi bod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ers y digwyddiad.
Aeth Jason Edwards, 25 oed o ardal Glan-yr-afon, Caerdydd, Lee William Strickland, 36 oed a heb gyfeiriad parhaol, a’r ferch 16 oed gerbron Llys y Goron Casnewydd bythefnos yn ôl er mwyn cadarnhau eu henwau.
Ymosodiad Parc Biwt: Trin yr achos fel ymchwiliad llofruddiaeth wedi marwolaeth dyn 54 oed
Bu farw Gary Jenkins o Fae Caerdydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ddydd Iau, 5 Awst